Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/378

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Wel," ebai Rees Jones, nid yw o un diben i ni fod yma yn ffraeo â'n gilydd," a galwodd ar Sion Griffith, Tanygraig, i ddibenu y cyfarfod. Cododd yr hen ŵr ar ei draed, a rhoddodd y penill canlynol i'w ganu;—

"Yr hwn sydd isel yn ei fryd
Yn caru ei gyd Grist'nogion;
Yr hwn sy'n ofni'r Arglwydd Dduw,
Ac sydd yn byw yn ffyddlon."

Dechreuwyd canu, a chanu y buwyd am amser maith, a chyn y diwedd, yr oedd y dagrau yn treiglo ar hyd gruddiau W. D., ac ni chlywyd byth air o son am yr ymrafael.

Richard Hughes, Tŷ'nyfawnog, oedd athraw y prif ddosbarth. Dywedir nad ydoedd yn rhagori ar y cyffredin mewn gwybodaeth, ond yr oedd yn meddu cymhwysderau athraw. Cadwai ei hun o'r golwg, a rhoddai y dosbarth ar lawn waith; byddai yn hynod fywiog ac effro, ond y dosbarth fyddai yn penderfynu pobpeth. Yr oedd Richard Hughes yn hynod mewn gweddi. Byddai yn dda gan bawb ei weled yn d'od ymlaen i arfer y moddion. Dywedai un chwaer am dano, "Y mae Richard Hughes mor debyg o fyn'd i'r nefoedd pan fydd yn gweddio; bydd arnaf flys a'i ladd ar ei liniau, iddo fod yn sicr o gyraedd y nefoedd yr amser hwnw."

Anne Lewis, Tymawr, merch yr hen flaenor John Jones, a'i chwaer Bridget Ellis, y Felin, a fuont yn athrawesau ffyddlon. Yr oedd Mrs. Lewis yn dra ffyddlon mewn cylchoedd eraill hefyd. Bu ei thŷ yn llety eysurus i'r pregethwyr yn y Gwynfryn, ac wedi hyny yn Tymawr am flynyddoedd lawer, a chyfranai yn haelionus a chyson at yr achos hyd ddiwedd ei hoes faith. Gallem feddwl ei bod yn dwyn llawer o ddelw ei thad; ychydig a ddywedai, ond byddai yr hyn a ddywedai bob amser yn gyflawn o synwyr. Gofynai gweinidog yr eglwys iddi unwaith a fyddai yn gweddio llawer dros yr achos.