Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/379

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Atebai hithau, "Ni bydd genyf lawer i'w ddweyd, byddaf yn dweyd 'deled dy deyrnas,' ac yn rhoi fy Amen ar ol hyny." Ni byddai byth bron yn beio ar y bregeth. Un boreu Sabbath, pa fodd bynag, yr oedd wedi bod yn gwrando pregeth ar y geiriau, "Gwthia i'r dwfn," &c. Ar ol myned adref, adroddai y testyn, ac ychwanegai, "Yr oeddwn inau yn dweyd ynof fy hun, wel gwthia dithau i'r dwfn, yn lle laitchio o gwmpas y lan o hyd." Ond anfynych y dywedai ddim fel yna, canmol y byddai fel rheol, ac ni oddefai i neb arall feio. Hi oedd y ddiweddaf oedd yn fyw o'r rhai oedd yn yr Ysgol Sul gyntaf a gynhaliwyd yn Rhwng-y-ddwy-bont.

Tri wyr eraill ffyddlon gyda'r achos oeddynt, Robert Jones, y Coed; Richard Ellis, Penarth; a Robert Wynne, Tyddyn bach. Un o'r athrawon goreu, ac un o'r rhai adawodd fwyaf o'i ol o neb ar Ysgol Sul y Gwynfryn oedd Robert Jones. Dywedir ei fod o dymer naturiol lled bigog, eto meddai galon lawn o gariad, ac yr oedd yn gyfaill y gellid ymddiried ynddo. Yr oedd aelodau ei ddosbarth yn ymlyngar wrtho, a'u parch bron yn ddiderfyn tuag ato. Llewyrchai crefydd hefyd yn ddisglaer yn ei deulu. Coffheir am un cyfarfod nodedig a gynhaliwyd yn y Coed, pryd yr oedd rhyw amhariaeth ar aelod Robert Jones, ac yntau yn methu myn'd i'r capel. Ar ei ddymuniad i gael cyfarfod gweddi, ymgasglodd llon'd y tŷ o bobl. Ymddangosai rhywbeth pur hynod yn y cyfarfod o'r dechreu. Galwyd ar Evan Parry i weddio yn olaf, yr hwn ar ol y brodyr eraill a ofynodd am iddo gael gwella y pryd hwnw "Yrwan, yrwan," dywedai. Yr adeg hono sylwai un o'r brodyr ar Robert Jones yn ceisio codi i edrych a oedd yn gwella; ac y mae yn ffaith ei fod wedi gwella o'r fynyd hono allan. Ar ol terfynu y cyfarfod, dywedai Robert Jones wrth yr ychydig a arhosasant ar ol, a'r dagrau ar ei ruddiau, "Wel, frodyr bach, yr wyf yn gobeithio mai i'r nefoedd yr ewch bob un, lle bynag yr ewch chwi yr âf finau." Byddai yn anhawdd