Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/380

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cael gan Richard Ellis wneyd dim yn gyhoeddus, ond pan y gwnai, teimlai pawb mai da oedd bod yn bresenol i wrando. Yn y cyfarfod eglwysig unwaith ewynai fod ei weddiau yn bethau gwaelion iawn. "Ydynt," dywedai John Jones, "y maent yn bethau gwael; dyn yn myned i gongl y cae ac yn dweyd ychydig eiriau, mae yn beth gwael; ond os ydyw Duw yn y nefoedd yn gwrando, nid ydyw hyny yn beth gwael; dyn yn myned i gongl yr ysgubor, ac yn dweyd ychydig eiriau, ac yn meddwl nad ydynt yn myned yn uwch na'i dalcen, mae yn edrych yn beth gwael; ond os ydyw Duw yn y nefoedd yn myned i ateb, nid ydyw hyny yn beth gwael." Robert Wynne Tyddynbach, oedd un hynod mewn gweddi. Cadwai ddyledswydd yn ei deulu trwy lawer o rwystrau. Byddai ei wraig yn dweyd wrtho yn y cynhauaf gwair, "Wel, Robin, darllen di ryw bwt o Salm fach, fach, a dyro bwt o weddi fer, fer, i ni gael myned allan at y gwair yna." A thra byddai ef yn gweddio, byddai hi wedi gyru yr ystôl fyddai ganddi yn eistedd i ymyl y bwrdd, er mwyn cael cydio yn ei gwaith pan ddeuai yr Amen.[1]

Gweithiodd yr eglwys hon ei ffordd heb bresenoldeb gweinidog yn byw yn yr ardal hyd yn lled ddiweddar. Bu y Parch. Daniel Evans yma yn cadw ysgol ddyddiol yn amser Mr. Charles, neu ychydig ar ol ei farw. Byddai y plant yn anarferol o hoff o hono, gan ei fod o dymer mor dyner ac addfwyn; ac yn groes i arferion yr amseroedd hyny, medrai y ffordd i'w dysgu heb eu curo. Un o'i ysgolheigion a rydd yr hanesyn canlynol i brofi hyn. Wedi eu dal ar fai un diwrnod, cymerai D. Evans arno ei fod yn ymadael o'r ardal. Y plant yn gweled hyny a ddechreuasant wylo. Ond nid oedd dim yn tycio, casglodd yr ysgolfeistr wahanol bethau ynghyd ac a'u gwnaeth yn becyn, i osod argraff ar eu meddwl hwy ei

  1. Traethawd Miss Davies.