Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/381

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fod yn benderfynol o ymadael. Dechreuodd un oedd yno mewn oed, pa fodd bynag, eiriol dros y plant, ac addawodd fyned yn feichiau na byddent ddim yn blant drwg mwyach. Wnai hyny mo'r tro, heb gael dyn arall o'r pentref i roddi ei air drostynt; ac wedi cael dau i ymrwymo yn feichiafon na byddai y plant ddim yn blant drwg mwyach, addawodd aros. Felly, trwy gyfrwysdra a diniweidrwydd yr ysgolfeistr addfwyn, crewyd diwygiad mawr ymhlith y plant wedi hyn. Rhoddodd yr hen efengylwr heddychlon lawer o'i wasanaeth i'r Gwynfryn tra bu yn trigianu dros dymor maith fel eu cymydog yn Harlech.

Cymydog agos, ar yr ochr arall, oedd Mr. Humphreys, hysbys ydyw y gwnelai ef ei hun yn bobpeth i bawb, yn enwedig yn yr ardaloedd cyfagos. Byddai yn y Gwynfryn bob amser ar unrhyw achos o bwys. Yr oedd y Parch. Griffith Hughes, Edeyrn, ar daith trwy Sir Feirionydd rywbryd, a'r Parch. Robert Ellis, Ysgoldy, gydag ef, yn ddyn ieuanc newydd ddechreu pregethu. Yr oeddynt yn Harlech y boreu, Gwynfryn y prydnhawn, a'r Dyffryn y nos. Ebai Mr. Ellis, "Pan yn myned o Harlech tua'r Gwynfryn, mewn trofa ar y brifffordd, pwy welem yn sefyll ar y ffordd draw o'n blaen ond Mr. Humphreys,-corff mawr, un o'r rhai mwyaf esgyrnog, yn tynu at fod yn afrosgo. Ei gyfarchiad cyntaf oedd, 'Wel, mi a ddaethum hyd o'r Faeldref, rhag i chwi gael dweyd na ddaeth neb i droi mo'ch trwyn.'"

Tua'r amser hwn, arferai y Parch. Lewis Jones, Bala, ddyfod yn awr ac yn y man, ar ymweliad â'r Faeldref. Deuai oddiyno weithiau i'r Gwynfryn i gadw seiat. Y Parch. E. Foulkes Jones, Glan Conwy, yn ei adgofion am y Gwynfryn, a rydd y darluniad dyddorol a ganlyn o un o'r cyfarfodydd hyn,-"Yr oedd genyf feddwl mawr am Lewis Jones fel pregethwr, ond nid oeddwn erioed wedi ei glywed yn cadw seiat. Ar ol iddo ddechreu, dywedai un o'r blaenoriaid wrtho am gymeryd y