Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/382

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

seiat yn ei law ei hun. 'Wel,' meddai, 'ni waeth i mi ddechreu yn y fan yma :' a dechreuodd ar ei law dde yn y sêt fawr, ac aeth ymlaen tua'r pen nesaf i'r afon iddi. Yn y fan hono yr oedd hen ŵr bychan yn dysgu plant bob amser, ac yr oeddwn inau wedi bod yn ddisgybl iddo. Yr oeddwn yn ofni rhag i'r hen athraw fyned yn ddim dan ddwylaw Lewis Jones. Dechreuodd ei holi, a dechreuodd yr hen wr ei ateb, a chyn hir yr oeddwn yn credu fod y ddau yn nghanol y nefoedd, nes yr oeddwn yn synu o ba le yr oedd yr hen ŵr diniwed wedi cael y fath syniadau. Yn bur fuan ar ol hyn, daeth at ŵr arall ag y byddai son am dano pan oeddwn yn fachgen, fod ar ei feddwl ddechreu pregethu. Ei brofiad ef oedd ei fod yn ofni nad oedd wedi marw i'r ddeddf, a chofiais yn y fan mai dyna fyddai ei hoff bwnc bob amser. Wel, meddwn wrthyf fy hun, Lewis Jones o bawb i drin y pwnc yna gyda chwi. Dechreuodd y gŵr parchedig ei holi yn bwyllog ar y mater, a throai o gwmpas y mater, yn ol ac ymlaen, a'r dyn trwy y cwbl yn dangos yr anwybodaeth dyfnaf, a dim i'w gael ganddo ond ei fod yn ofni nad oedd wedi marw i'r ddeddf. Ar hyn, cyfodai Lewis Jones ei olygon at y rhai oedd yn nghorff y capel, a dywedai, 'Yr oeddwn ychydig Sabbothau yn flaenorol yn un o'r teithiau agosaf i'r Bala, lle yr oedd amaethwr cyfrifol wedi aros yn y seiat ar ol yr odfa. Yr oedd yn hen wrandawr, ac wedi cael ar ei feddwl yn ddiweddar i ymuno â phobl yr Arglwydd. Anfonwyd fi ato (ebai Lewis Jones), a dechreuais ymddiddan âg ef, a dyna a ddywedai, ei fod yn ofni nad oedd wedi gwir gredu yn Nghrist. Ceisiais fy ngoreu ddangos iddo gymhwysder Crist croeshoeliedig fel gwrthddrych priodol i bechadur gredu ynddo, ond diengai y dyn o dan fy nwylaw, gyda'r esgus ei fod yn ofni nad oedd wedi gwir gredu yn Nghrist. Aethum o'i gwmpas drachefn, a heliais ef i'r gongl, i olwg Crist croeshoeliedig, ond diangodd eto gyda yr un esgus. Aethum o'i gwmpas y drydedd waith, yn arafach a mwy gofalus, rhag fod