Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/383

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhywbeth yn fy null yn dangos yr Arglwydd Iesu iddo yn ei ddychrynu, ac wedi ei gael megis i adwy y mynydd, fel nad oedd neb ond efe a Christ croeshoeliedig yn y golwg, diangodd eto gyda'r un esgus ei fod yn ofni nad ydoedd wedi gwir gredu yn Nghrist, nes y bu raid i mi ddweyd fy mod inau yn ofni nad ydoedd wedi gwir gredu, onide ni fuasai mor gas ganddo Grist wedi ei groeshoelio.' Ni wnaeth ddim cymhwysiad o'r chwedl at y gŵr yr oedd yn ymddiddan ag ef ar y pryd, ac nid oedd eisiau, gan fod yr ymddiddan blaenorol yn ei chymwyso yn well na dim y gallai ef ei wneyd. Nid wyf yn cofio i mi glywed dim byd mwy gafaelgar yn fy oes; yr oeddwn yn teimlo ar y pryd ei fod yn cario rhywfaint o awdurdod y Barnwr mawr y dydd diweddaf. Yn ddiweddaf oll, daeth at hen frawd oedd wedi bod mewn rhyw ddyryswch ar hyd ei oes. Achwynai yr hen frawd yn dost fod y blaenoriaid wedi gwneyd cam âg ef mewn rhyw achos. Dechreuodd Mr. Jones holi yr hen wr a'r blaenoriaid, ac er yr edrychai yr achos yn dywyll yn y dechreu, daeth yn ddigon amlwg cyn y diwedd pa fodd yr oedd pethau yn bod; dywedai y gweinidog yn ddifloesgni lle yr oedd bai y blaenoriaid a bai yr hen ŵr, a chymerodd pawb ei fai ei hun yn ddigon tawel. Yr wyf yn edrych ar hon yn un o seiadau hynotaf fy oes, un y gwelais amlygiadau digamsyniol o bresenoldeb yr Arglwydd Iesu ynddi."

Yr un gŵr hefyd a rydd hanes un arall o bregethwyr hynod yr oes o'r blaen yn talu ymweliad â'r ardal. "Yr wyf yn cofio pan yn fachgen, fod son mawr drwy yr ardal fod Dafydd Cadwaladr i bregethu yn y Gwynfryn ar foreu Sabbath. Yr oedd y capel yn orlawn o bobl, ac er fy syndod, hen wr gwladaidd, esgyrnog, mewn dillad o frethyn cartref a welwn yn y pulpud, a gwynebpryd garw ganddo. Gyda fy mod i i fewn, dechreuodd weddio, a'i ben i lawr. Nid oeddwn yn fy oes wedi clywed neb yn gweddio yr un fath, ac edrychwn yn