Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/384

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

awr ac eilwaith i ben y capel, a welwn rywun neu rywbeth yn cario y deisyfiadau rhyfedd a chynwysfawr ar eu hunion o'r nefoedd i'w ben. Yr oeddwn dan yr argraff fod yn rhaid iddynt ddyfod o'r nefoedd rywsut neu gilydd. Nid wyf yn cofio dim o'r bregeth, ond y mae argraff y weddi ddwys, ddifrifol, a'r taerineb gafaelgar a gostyngedig hwnw, yn aros hyd y dydd heddyw."

Ystyrir y Gwynfryn yn eglwys ag y mae llawer iawn o rai rhagorol y ddaear wedi bod yn perthyn iddi. Rhai felly yn arbenig oedd y set gyntaf o grefyddwyr, a magwyd yma do ar ol to o rai cyffelyb iddynt. Bu presenoldeb yr Arglwydd yn amlwg iawn ar adegau yn yr hen gapel. Coffheir am Sabbath nodedig, pan ddaeth y Parch. David Davies, Penmachno, y pryd hwnw, i'r ardal yn annisgwyliadwy. Pregethodd y nos, ar y Salm gyntaf, o dan arddeliad amlwg; daeth deunaw i'r society mewn canlyniad i'r odfa hono. Dro arall, pan oedd y Parch. R. Jones, Llanfair, yn gweinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd, dywed y rhai oedd yn bresenol na welsant ddim cyffelyb erioed; nid oedd yno gynwrf, ond teimlad dwfn, distaw; Sabbath a gofir tra byddant byw ydoedd. Cofir, hefyd, am Sabbath cymundeb, pan oedd y Parch. Rees Jones, Felinheli, yn gweinyddu. Yr oedd Mr. Jones wedi dyrysu nas gwyddai pa ffordd i fyned hyd nes yr aeth un o'r brodyr ato. Adegau oedd y rhai hyn y rhoddai yr Arglwydd ei bresenoldeb yn amlwg gyda'i bobl.

Adroddwyd yr hanes canlynol wrth y Parch. D. Jones, yn awr o Garegddu, gan y blaenor adnabyddus William Richard, yr hwn oedd yn llygad-dyst o'r ffeithiau. Digwyddodd ryw dro fod John Elias ar daith trwy y rhan yma o Sir Feirionydd. Cyhoeddid ef i bregethu, yn ol y trefniad, yn y Dyffryn, ar nos Sabbath; yr un Sabbath, yr oedd Robert Dafydd, Brynengan, yn y Gwynfryn, am ddau o'r gloch a'r nos. Wrth gyhoeddi ar ddiwedd yr odfa prydnawn, anogai Robert