Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/385

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dafydd, y neb a ewyllysiai i fyned i'r Dyffryn, i glywed y gŵr enwog yn pregethu, yn hytrach nag aros yn y Gwynfryn i wrando arno ef. Aros, pa fodd bynag, yn y Gwynfryn a wnaeth llawer. A'r noswaith hono, torodd allan yn orfoledd mawr, y fath ag y bu son am dano am amser maith. Yr oedd Humphrey Evans, wedi hyny o Lanfair, a John Davies, tad y Parch. John Davies, gynt o Lanelli, yn llanciau, yn eistedd ar ymyl yr hen gallery; a thra y cynyddai y gorfoledd yn ei rym, neidiasant dros yr ymyl i'r llawr brwyn islaw, gan ymuno â'r gynulleidfa mewn neidio a molianu. Ymysg y gynulleidfa ar y llawr yr oedd priod Richard Owen, wedi hyny o Runcorn, ac yn ddiweddaf o Bennal, yn wraig ieuanc, a baban bychan yn ei breichiau. Hithau hefyd a ddechreuodd neidio a molianu, gan daflu y baban oedd ganddi yn ei breichiau i ffedog ei mam, yr hon a eisteddai yn ei hymyl. Edrychai y ddau hen flaenor o'r sêt fawr ar yr olygfa gyda mwynhad rhyfeddol; ac wrth weled y wraig ieuanc yn taflu ei baban i ffedog ei mam, ebe John Jones wrth William Richard, "Weli di, dyma y broffwydoliaeth yn cael ei chyflawni, A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fei na thosturia wrth fab ei chroth? ïe, hwy a allant anghofio, eto myfi nid anghofiaf di.'" "

Y BLAENORIAID.

JOHN JONES.

Cydgychwynai ef â'r achos ar ei sefydliad. Efe a olygid ei brif sylfaenydd, ac yr ydoedd yn ŵr yr edrychid i fyny ato, nid yn unig yn ei eglwys ei hun, ond yn y Cyfarfod Misol a'r Gymdeithasfa. Fel duwinydd da ac un yn meddu ar synwyr cryf, dichon mai efe oedd y blaenaf a mwyaf ei ddylanwad o holl flaenoriaid y dosbarth yn ystod y deugain mlynedd cyntaf o'r ganrif bresenol, ac hwyrach na bu ei ragorach yn yr ystyr hwn, yn y rhan yma o'r wlad, o'r cychwyn cyntaf hyd yn awr.