Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/387

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dolgellau. Un boreu, yr oedd Griffith Pugh yn cadw dyledswydd deuluaidd yn ei dŷ, yn Llanfachreth, ac yn ei theimlo yn anarferol o galed-mwy o dywyllwch nag arfer wedi meddianu ei feddwl. Ond tra yr oedd ar ganol gweddio, daeth dyn i mewn i'r tŷ, ac ymostyngodd ar ei liniau gyda'r gweddill o'r teulu, heb ddyrysu dim ar y gwasanaeth. Gydag iddo ddod i mewn, teimlai y gweddiwr lawer mwy o ryddid wrth weddio. Gallai fyned yn ei flaen mor rhwydd bellach fel mai anhawdd oedd rhoddi i fyny weddio. Pwy oedd wedi dod i'r tŷ ond John Jones. Teimlai G. Pugh ei bresenoldeb fel presenoldeb angel wedi dyfod i'r tŷ; credai yn sicr mai hyny oedd wedi rhoddi y fath rwyddineb iddo, ac adroddai yr hanes yn fynych wrth ei gyfeillion.

Rhoddwyd eisoes hanes dyddorol am dano yn cadw seiat mewn cysylltiad ag eglwys Llanelltyd. Gwnaeth ei hun yn hynod o gyhoeddus mewn amrywiol gylchoedd eraill. Aeth o'r Gwynfryn unwaith i Harlech, i Gyfarfod y Feibl Gymdeithas. Gŵr eglwysig pur uchel oedd yno ar y pryd dros y Gymdeithas. Rhoddwyd John Jones i ddechreu y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio, a galwyd arno i siarad drachefn ar ran y Gymdeithas. Siaradodd yntau mor effeithiol, nes oedd pawb wedi myned i wylo, ac nis gallai y gŵr dieithr dros y Gymdeithas wneuthur dim argraff ar ei ol. Bu son mawr am y cyfarfod hwn.

Gwnaeth hefyd araeth gofiadwy yn Nghymdeithasfa Dolgellau, pan oedd achos yr Ysgol Sul dan sylw. Yr oedd yn bresenol yn y Gymdeithasfa hono, John Elias, Ebenezer Richard, William Morris, Cilgeran, a llawer o enwogion eraill. Eisteddai John Jones ar y gallery; galwyd arno i ddweyd gair. Daeth yntau ymlaen i ymyl y gallery, a dywedai,-"Nid oes gen i fawr i'w ddweyd mewn lle fel hyn. Ond yr ydwyf yn cofio y wlad yma yn wahanol iawn i'r hyn ydyw hi yrwan. Yr ydwyf yn ei chofio heb ddim capelau, heb ddim Ysgolion