Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/388

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Sabbothol, ac heb fawr iawn o Feiblau yn y tai. Erbyn hyn y mae ysgol a chapel bron ymhob cwm, a Beibl ymhob tŷ. Ond rhaid i mi gofio, os ydym am ddal ein tir, y rhaid i ni lafurio yn gyson. Byddaf fi yn gweled y gofaint yn y wlad yma yn cael yr haiarn adref yn fariau ac yn sheets, yn ol y maint a'r trwch fo arnynt eisiau. Ond rhaid i'r gof gadw ei dân bach ei hun, onide wnaiff o ddim bywoliaeth. Whawn ninau ddim bywoliaeth os na pharhawn ni i lafurio yn gyson gyda yr Ysgol Sul." Yr oedd enwogion y Gymdeithasfa wedi eu gorchfygu o lawenydd wrth wrando ar y sylwadau hyn. Yn ei hen ddyddiau parhai yn golofn i gynal yr achos. Petrusai y blaenoriaid eraill ynghylch derbyn nifer o rai ieuainc yn gyflawn aelodau oherwydd en bod yn wylltion. "Os ydynt yn wyllt," ebai John Jones, "ni wn i beth ellwch wneyd yn well na rhoi ffrwyn yn eu penau nhw." Bu yr hen batriarch farw yn nghanol parch ac edmygedd yr eglwys.

EDWARD JONES, HENDREWAELOD.

Efe a John Jones oeddynt y ddau flaenor cyntaf. Rhoddodd ef dir i adeiladu capel Cwm Nancol arno ar delerau rhesymol. Yr oedd yn ddyn da a deallus. Y mae rhai o'i deulu yn aros yn golofnau wrth yr achos. Oherwydd rhyw amgylchiadau, modd bynag, ymadawodd o'r Gwynfryn i'r Dyffryn, a neillduwyd ef i'r swydd yno cyn diwedd ei oes.

Rhys Sion, Tynllan (wedi hyny o Talygareg); John Owen, a William Rhisiart, Tanywenallt (Tyddynypandy wedi hyny), a ddewiswyd ar ol y ddau uchod. Symudodd John Owen i'r Dyffryn. Symudodd Rhys Sion a W. Rhisiart gyda'r eglwys ar ei sefydliad cyntaf i Lanbedr. Ceir eu hanes mewn cysylltiad a'r achos yno. William Davies, Dinas, fu yn flaenor am dymor. Ymfudodd i'r America. Griffith Williams, Glanrhaiadr, ac Evan Jones, a neillduwyd oddeutu yr un amser, a buont yn gwasanaethu y swydd yn Nancol.