Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/389

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

WILLIAM EVAN, GWYNFRYN.

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol Tachwedd, 1841. Wrth ddweyd ei brofiad ar y pryd, tystiai fod gwawr wedi tori ar ei feddwl yn ngwyneb y geiriau, "Mae hwn yn derbyn pechaduriaid." Bu ef yn ffyddlon iawn gyda'r achos. Gwnaeth y goreu o'r ddau fyd, canys yr oedd yn hynod ddiwastraff o'i amser Darllenasai y prif erthyglau yn y Geiriadur, ac yr oedd yn eu deall yn drwyadl. Parchai yn ddiledryw weinidogion yr efengyl; gwnaeth benderfyniad pan oedd ei blant yn ieuainc i beidio dweyd yr un gair bach am yr un pregethwr ar yr aelwyd gartref. Ato ef yn benaf y cyfeiriai Mr. Morgan pan y dywedai unwaith mewn Cyfarfod Misol fod blaenoriaid y Gwynfryn yn esiampl yn eu dull o wrando, ei fod ef yn gwybod eu bod yn gallu gwahaniaethu rhwng y gwych a'r gwael, ond nas gallai neb ddeall hyny oddiwrth eu dull hwy. Gŵr llednais ydoedd, yn caru heddwch ymhlith y brodyr. Yntau hefyd a aeth i dangnefedd, wedi dioddef ei ran o brofedigaethau ei swydd. Bu farw yn niwedd 1873.

JOHN WILLIAMS, DINAS.

Oddeutu y flwyddyn 1857, dewiswyd yntau yn flaenor, ond gwrthododd ddyfod ymlaen i gael ei dderbyn am ei fod, meddai ef, yn rhy hen. Gweithiodd ei ddiwrnod, er hyny, fel un o wyr ffyddlonaf yr eglwys, ac ni byddai hanes yr eglwys mewn un modd yn gyflawn heb air am dano ef. Os byddai gwendid neu ddiffyg, byddai a'i holl egni yn cynal yr achos; ond tra yr elai pobpeth ymlaen yn rhwydd, byddai ef o'r golwg: nid oedd arno eisiau dangos ei hun. Gofalai yn neillduol am y bobl ieuainc, rhoddai waith iddynt, a thynai hwy ymlaen. Yr oedd llawer o hynodion yn perthyn iddo; dywedai ei feddwl yn ddidderbyn-wyneb, ac ni feddyliai neb am dramgwyddo wrtho. Un tro, mewn committee ar ddiwedd y flwyddyn, dywedai Rhys Sion, "Wel, frodyr, yr ydym wedi