Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/390

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bod hyd yma gydag amgylchiadau allanol yr achos, oes gan neb yr un gair i'w ddweyd o ddim arall?" Cymhellwyd John Williams i ddweyd gair. "Wel oes, y mae gen i beth i'w ddweyd," atebai yntau, "ond rhyw bregeth ddigon digrif fydd fy mhregeth i heno; fe'i dywedaf i hi, gwnewch chwithau fel y fynoch â hi wed'yn. William Rhisiart, pan godi di i siarad, dywed yr hyn fydd genyt i'w ddweyd unwaith, a gad rhyngom ni a fo-paid a'i ddweyd o ddwywaith. A phaid a dweyd y cogyn aur hwnw o hyd. A thithau, Rhys Sion, rhaid i ti beidio bod mor hir; yr ydym ni wedi bod yn dweyd hyn wrthyt ti lawer gwaith, a dal ati hi wnawn ni nes y gwnei di altro. William Evan, paid tithau a dweyd dest yr un fath a'r neb fydd o dy flaen-dyfeisia rywbeth dy hun i'w ddweyd. A dyma finau, rhyw benbul ydw ina', does i chwi ddim i'w wneyd ond dal i guro arna i. A dyma Sam yn gymaint penbul a mina'-rhaid i ti beidio bod mor stupid Sam. Edward Davies, rhaid i chwi beidio bod mor boethlyd; hwyrach pe bae y peth fyddwch yn ei ddweyd wedi ei daflu i ganol y llawr i oeri, na byddai yn werth hen fagsen."[1] Dywedir fod y cynghorion hyn yn briodol iawn i bob un, ac er na buasai yn talu i neb arall eu dweyd, nid oedd neb yn meddwl tramgwyddo wrtho ef. Rhagorai ar y cyffredin mewn haelioni, ac yr oedd hyn wedi ei ddysgu iddo er yn blentyn gan ei fam. Pan yn fachgen byddai yn canlyn y cwch ar Lyn Penmaen, ger Dolgellau, ac yr oedd ganddo "gadw di gei" i roddi ei bres ynddo. Ceisiai ei fam ganddo roddi peth at y Feibl Gymdeithas, dywedai yntau nad oedd ganddo ddim i'w roddi; gwnaeth hithau iddo edrych faint oedd yn y box yr oedd yno saith a chwech. "Dyro goron," ebai ei fam, "hwyrach y cei di goron i'w rhoddi tra byddi byw." Gwnaeth yntau hyny, a pharhaodd i'w rhoddi tra y bu byw. Byddai

  1. Traethawd Miss Davies.