Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/391

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn rhoddi y goron ar ei phen ei hun, er mwyn gair ei fam, a sovereign at hyny. Ei briod hefyd, Elizabeth Williams, oedd wraig hynod am ei haelioni. Pan yn wraig weddw yn Ymwlch, byddai ei thŷ yn agored i'r holl bregethwyr a elent heibio. Hi fyddai yn gofalu am amgylchiadau allanol y Cyfarfod Misol yn Harlech, ac wedi hyny yn y Gwynfryn.

EDWARD OWEN

a fu yn flaenor yma am dymor tra fu byw yn Cefnisa', ond yn Harlech y bu yn gwasanaethu y swydd hwyaf. Bu farw yn nechreu 1878.

ELLIS EDWARDS, HAFODYCOED.

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, Medi 1878, ond yr oedd wedi gweithio llawer gyda'r achos am faith flynyddau cyn hyny. Y lle y deuai ei ragoriaethau ef i'r golwg yn fawr oedd yn yr Ysgol Sabbothol. Yr oedd yn athraw ac yn holwyddorwr da. Bu yn llywydd cyfarfod ysgolion y dosbarth am flynyddau. Dangosodd ffyddlondeb mawr gydag amgylchiadau yr achos, yn enwedig yn ei flynyddau olaf. Yr oedd yn wr ffraeth ei ddywediadau, serchog yn ei gymdeithas, ac yn un o'r cymydogion mwyaf caredig. Yn ei ymadawiad, collodd yr eglwys un o'i phrif golofnau. Bu farw Medi 16eg, 1888.

WILLIAM LEWIS, Y PENTREF.

a fu farw yn bur ddisymwth ddechreu Rhagfyr, 1889. Bu yn wasanaethgar i'r achos yn ol ei allu, ac yr oedd ei dy er's blynyddoedd yn agored i weinidogion yr efengyl. Y mae yr eglwys ar hyn o bryd yn teimlo ei cholled yn fawr ar ei ol.

SAMUEL JONES.

Er colled fawr i'r eglwys, bu yr hen bererin Samuel Jones farw Ebrill 23ain, 1890, yn 81 mlwydd oed, wedi bod yn