Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/392

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

flaenor rheolaidd er dechreu 1857. Treuliodd ran gyntaf ei oes yn ddyn ofer; ond wedi ei ddychwelyd daeth yn un o ddeiliaid ffyddlonaf y Brenin Iesu. Pan oddeutu pump ar hugain oed, ac yn fuan ar ol ei ddychwelyd at grefydd, gosodwyd ef yn ddechreuwr canu yn y Gwynfryn, a pharhaodd yn y swydd hyd ddiwedd ei oes. Owen Evans, Talygareg, oedd y dechreuwr canu o'i flaen ef; bu tymor y ddau yn y swydd, wedi eu rhoddi ynghyd, oddeutu pedwar ugain a deg o flynyddau. Tystiolaethir am S. Jones ei fod yn un o'r duwinyddion goreu, y dilynwr moddion gras goreu, y gwrandawr goreu, a'i fod yn nodedig o grefyddol ei ysbryd. Hen bererin hoff! mor nefolaidd ei lais, ac mor debyg i sant yr olwg arno! Y nos Sabbath olaf y bu yn y capel, cynghorai yr eglwys i fod yn ffyddlon i'r moddion, yn enwedig i'r Ysgol Sul, a dywedai am yr anhawsderau a gawsai ef ei hun i ddyfod i'r moddion y diwrnod hwnw. "Ond," meddai, "yr ydw i wedi gwneyd hen benderfyniad i fod yn ffyddlon hyd y medrwn, ac mi ddymunwn,—

Rodio'r llwybr cul bob cam,
A meddwl am fy nghartref."

Mr. William Lewis, Tymawr, a fu yn flaenor am dymor maith, ac a weithiodd lawer gyda'r achos yn ei holl gysylltiadau. Mr. Robert Jones, Gwerneinion, a fu yn gwasanaethu y swydd yn ffyddlon yma cyn ei symudiad yn ddiweddar i'r Dyffryn. Un arall ymhlith y chwiorydd a ddangosodd ffyddlondeb mawr i'r achos, ac a groesawodd lawer ar bregethwyr yr oes bresenol, oedd Mrs. Lewis, Pentref y Gwynfryn. Nid oedd dim yn ormod ganddi hi i'w wneyd yn y ffordd hon.

Oherwydd rhyw achos neu gilydd, bu yr eglwys am flwyddyn heb ddim swyddogion; ac am y flwyddyn hono, gosododd y Cyfarfod Misol y Parch. E. J. Evans, Llanbedr, y