Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/393

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pryd hwnw, yn ofalwr am yr achos. Wedi ail ddewis y blaenoriaid, pasiwyd y penderfyniad canlynol yn Nghyfarfod Misol Mai, 1884, "Amlygwyd llawenydd fod yr eglwys yn y Gwynfryn wedi dyfod i'r stât y mae ynddi yn bresenol, ar ol bod mewn amgylchiadau pur ddyrys." O hyny hyd yn awr, â pob peth ymlaen yn llwyddianus.

Yn y flwyddyn 1864, galwyd y Parch. D. Jones, yn awr o Garegddu, i fod yn weinidog rheolaidd yr eglwys hon a Llanbedr. Bu yn llafurus ynddynt am bymtheng mlynedd, a'i arhosiad yn fendith i'r achos. Bu y Parch. Hugh Pugh, hefyd, yn preswylio yn yr ardal, ac yn weithgar gyda'r achos, hyd ei ymsefydliad yn Lleyn yn y flwyddyn 1889. Y blaenoriaid presenol ydynt, Griffith Williams, Thomas. Lloyd, Edward Evans.

Aelodau eglwysig, 89; gwrandawyr, 225; Ysgol Sul, 174.

NANCOL.

Gelwir y lle hwn Cwm Nancol. Saif oddeutu dwy filldir yn uwch i fyny na phentref y Gwynfryn, rhwng hyny a Drws Ar Dudwy. Teneu ydyw poblogaeth yr ardal wedi bod, ac felly mae eto. Perthyn i'r Gwynfryn fel taith y mae y lle wedi bod o'r dechreu, er nad yw rhan o'r ardal ymhell iawn o ardal Dyffryn. Dechreuwyd yr achos yma trwy gadw Ysgol Sul mewn ffermdy o'r enw Hendrewaelod, yn y flwyddyn 1816. Edward Jones, Twllnant, a Robert Jones, Glanrhaiadr, oedd yn gofalu yn benaf am yr ysgol, ac yn aelodau yn eglwys y Dyffryn. Bu yn cael ei chynal wedi hyny am ysbaid yn Glanrhaiadr. Symudwyd hi yn ol drachefn i'r Hendrewaelod yn 1818, ac yno y bu dros ysbaid ugain mlynedd, hyd nes yr adeiladwyd y capel. Adeiladwyd capel Nancol yn y flwyddyn 1839. Rhoddwyd y tir yn feddiant gan Edward Jones, Hendrewaelod, am ddeg swllt. Heblaw efe, cymerodd y cyfeillion canlynol ran flaenllaw