Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/394

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyda'r capel, Griffith Williams, Glanrhaiadr; Evan Lloyd, Gareglwyd; Evan Jones, Twllnant; Rees Williams, Maesygarnedd; Moses Hughes, Llanmaria. Rhoddodd Morris Jones, Graig Isaf, arian yn ddilôg tuag at y capel. Yr oedd, yn ol y cyfrifon, 20p. o ddyled arno yn y flwyddyn 1850. Yr oedd y cyfeillion yn y cwm hwn mor awyddus i gael addoli yn y capel, fel y darfu iddynt gynal cyfarfod gweddi ynddo pan oedd y seiri coed ar ganol eu gwaith. John P. Jones, mab Edward Jones, Hendrewaelod, ddechreuodd y cyfarfod, a'r penill cyntaf a ganwyd ynddo oedd:—

"I dŷ yr Arglwydd pan ddywedant awn."

John Thomas, y Bala, a bregethodd gyntaf yn y capel. Moses Hughes, Llanmaria, brawd i'r Parch. Thomas Hughes, gynt o Fachynlleth, oedd y dechreuwr canu cyntaf. Bu Betti Ifan, Hendrewaelod, yn ofalus gyda'r achos bychan yn Nancol, byddai yn arwain y canu pan na byddai neb gwell yn bresenol. Yn 1844, medd ein hysbysydd, y sefydlwyd yr eglwys yno, nid trwy osodiad y Cyfarfod Misol, na thrwy ganiatad eglwys y Gwynfryn, ond trwy fyned a'r ordinhad o Swper yr Arglwydd i'w gweinyddu i Elizabeth Jones, yr hon gan henaint oedd yn methu mynychu moddion gras. Rhif yr aelodau eglwysig y pryd hwn oedd 16.

Hyd eithaf ein gwybodaeth, tri o frodyr fu yn flaenoriaid yn Nancol-Griffith Williams, Glanrhaiadr, Evan Jones, Twllnant, Evan Parry, Cefnuchaf. Y mwyaf hynod o'r tri, o leiaf, y mwyaf gwastad a ffyddlon ymhob peth, oedd Griffith Williams. Yr oedd yn hynod yn y cyfarfod eglwysig, fel gweddiwr, a chynghorwr doeth ac amserol. Dewiswyd ef yn flaenor gyda golwg ar Nancol, yn y flwyddyn 1841. Ofnus oedd ynghylch ei grefydd bersonol, ebai Daniel Evans, pan yn cael ei dderbyn i'r Cyfarfod Misol. Trwy ei ffyddlondeb, enillodd radd dda, a hyfder mawr yn y ffydd sydd yn Nghrist Iesu. Symudodd yn