Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/395

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

niwedd ei oes i fyw i'r Gwynfryn, ac nid yn fuan yr anghofir ei sylwadau synhwyrgall, a'i weddiau byrion a thaerion yno. Derbyniwyd Evan Parry yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor yn Nancol yn mis Mawrth, 1856. Yr oedd yn gymeriad ar ei ben ei hun. Yr oedd yn ŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau, yn deall athrawiaethau crefydd yn dda, yn hoff o ymborthi ar fwyd cryf. Mwynhaodd lawer yn ei flynyddoedd olaf ar bregethau y Parchn. David Charles, Caerfyrddin, a Morgan Howells. Byddai yn bur llawdrwm ar y pregethwyr ieuainc, yn eithafol felly ar adegau. Anwastad y ceid ef o ran ei dymer a'i brofiad crefyddol. Byddai yn gyndyn ar brydiau i ddweyd dim yn y seiat, yn enwedig os trymaidd fyddai y cyfarfod, ond os yn ysgafn, byddai yntau ar uchelfanau y maes. Er hyny, rhoddai Evan Parry brofion ei fod yn ŵr yn dal cymdeithas â Duw, a byddai ei weddiau yn ffrwyth ei brofiad ei hun.

Ymhen amser, gwanychodd yr achos yn Nancol, a theimlid anhawsder i'w gario ymlaen fel eglwys ar ei phen ei hun. Y crybwylliad cyhoeddus cyntaf ydym yn gael ar hyn ydyw, fod brawd o'r eglwys yn rhoddi adroddiad yn Nghyfarfod Misol Mai 1864, o sefyllfa isel yr achos yn y lle, ac yn dymuno cael sylw y Cyfarfod Misol at hyny. Ar ol gwneyd ymchwiliad, y penderfyniad cyntaf y daeth y Cyfarfod Misol iddo oedd, eu cynghori i ffurfio undeb agosach â'r Gwynfryn, ac i ddyfod i lawr yno i gyfranogi o'r ordinhad o Swper yr Arglwydd. Ebrill, 1865, gwnaed sylw helaethach a mwy penderfynol o'r achos drachefn mewn cyfarfod yn y Dyffryn, a cheir y geiriau canlynol, mewn cysylltiad â'r cyfarfod hwnw. "Gwnaed sylw ar y perygl i leoedd bychain fyned yn eglwysi ar eu penau eu hunain, a thrwy hyny fod achos crefydd yn cael ei ddrygu." Yn Nghyfarfod Misol y Dyffryn, Chwefror 1867, wele y diwedd wedi dyfod. "Wedi gwrando adroddiad am agwedd yr achos yn Nancol, penderfynwyd na byddom mwyach yn cydnabod yr achos yn y lle bychan hwnw yn eglwys; ac os