Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/396

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bydd y rhai sydd yn aelodau yno yn dewis bod yn aelodau gyda'r Methodistiaid, fod yn rhaid iddynt ymuno â rhyw eglwysi eraill, a phenodwyd y Farchn. D. Davies ac Edward Morgan i fyned yno i roddi y penderfyniad hwn gerbron y cyfeillion." Er mai bechan a gwywedig oedd yr eglwys, ymladdfa fawr a fu ei difodi. O'r pryd hwn allan, pa fodd bynag, nid ydyw Nancol yn bod fel eglwys, ond erys hyd heddyw yn rhan o eglwys y Gwynfryn, ac aiff y pregethwr o'r lle olaf i fyny yno i roddi pregeth bob prydnhawn Sabbath. Rai blynyddau yn ol, adnewyddwyd y capel, ac mae y cyfeillion crefyddol yma er's peth amser yn awr yn dangos graddau o adnewyddiad.

TALSARNAU.

Yn araf y torodd y wawr ac yr ymdaenodd y goleuni dros ardal Talsarnau. Nid oes sicrwydd i gychwyn gael ei roddi i'r achos yma hyd oddeutu terfyn y ganrif ddiweddaf, o leiaf, nis gallai y dechreuad fod ond bychan cyn hyny. Ond yn absenoldeb pob gwybodaeth am y dechreuad, gellir bod yn lled sicr i ryw gymaint o ddylanwadau crefyddol gael eu cario yma gyda'r awelon o Benrhyndeudraeth a Harlech, dau le o bob tu, a gafodd eu breintio gyda'r rhai cyntaf â gweinidogaeth y tadau Methodistaidd. Yr oedd tramwyfa Griffith Ellis, ar ei ymweliadau o Benyrallt i Bandy-y-Ddwyryd, ar hyd cwr uchaf cymydogaeth Talsarnau, a'r tebygolrwydd ydyw iddo ef, yn ol ei arferiad cyffredin o dori at ei gymydogion, fod yn foddion i enill rhai at grefydd yr Iesu yn y fro hon. Hwn yn ddiau oedd y dylanwad anuniongyrchol cyntaf. Y mae hanes arall dyddorol ar gael am Griffith Sion, y gwehydd o Ynysypandy, yr hwn a ddeuai o'i gartref, uwchlaw Tremadog, i anfon yr edafedd adref i ardaloedd y Penrhyn, Talsarnau, a Harlech. Oherwydd ei fod yn ŵr duwiol, ac yn meddu doniau amlwg mewn gweddi, arferai gadw dyledswydd deuluaidd yn