Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/397

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y tai yr ymwelai â hwynt. Adroddai ef ei hun yr hanes wrth y Parch. Daniel Evans, gynt o Harlech, yn y modd canlynol:— "Mi a fyddwn yn arfer a myned a'r eiddo adref ar ol ei wau, a chan fod genyf y ddau draeth (y Traeth bach a'r Traeth mawr) i'w croesi wrth fyned i ardal Talsarnau, ni allwn fyned a dychwelyd yr un diwrnod; ond yr oeddwn, gan hyny, dan angenrheidrwydd, y rhan amlaf, o letya dros nos yr ochr draw i'r Traethydd; a gwnawn hyny yn gyffredin yn nhŷ perchenog yr eiddo a ddygid adref genyf. Ar yr achlysuron hyny, gofynwn genad i ddarllen a gweddio yn y teulu y lletywn ynddo. Aeth hyn yn adnabyddus yn fuan trwy y fro, mai y cyfryw oedd fy arfer. Felly, cyn hir amser, pan y ceid lle i ddisgwyl fy mod yn dyfod drosodd, gwahoddai y naill wraig y llall i'w thŷ, gan ddywedyd yn siriol, 'Dowch acw heno,-y mae gwehydd Ynysypandy yn dyfod, a chewch ei glywed ef yn gweddio ar dafod leferydd. Ymhen amser deuent yn lluoedd i'm cyfarfod, yn enwedig y rhai y gweithiwn eu heiddo, a phob amser arosent oll i glywed y weddi hwyrol, ac amryw o honynt a ddeuent drachefn ar yr un neges y boreu dranoeth, a mawr y rhyfeddu a fyddai fy mod yn gallu gweddio heb lyfr. Aethum drosodd yno unwaith ar brydnawn Sadwrn, a methais ddychwelyd y noson hono gan y llanw; ac felly bu gorfod arnaf aros yno dros y Sabbath. Y boreu Sabbath hwn yr oedd gwrandawyr y benod a'r weddi yn lled liosog. Yn y fan y codais oddiar fy ngliniau y tro hwn, wele un yn fy ngwahodd i'w dŷ i giniaw, gan ofyn i mi ddarllen a gweddio yno; ac arall a'm gwahoddai i swper, gan erchi yr un peth. Meddyliais fod llaw Duw yn hyn. Amodais, gan hyny, â'r bobl hyn, i ddyfod a'r eiddo adref ar nos Sadwrn, a threulio y Sabbath gyda hwynt. Dyma'r amser,' ebe yr hen wr, 'y dechreuais bregethu heb wybod i mi fy hun." "-Methodistiaeth Cymru, I., 303.

Gyda y Griffith Sion uchod y bu y Parch. John Elias yn