Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/398

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

brentis o wehydd. Chwenychai y llanc fyned i'w wasanaeth oherwydd iddo glywed ei fod yn bregethwr, fel y gallai gael mantais i'w grefydd yn gystal ag er dysgu ei grefft, ac aeth ato yn 1792. Ond dywedir yn y paragraff uchod mai wrth arfer darllen penod a gweddio, ar ei ymweliadau â Sir Feirionydd, y dechreuodd yr hen wehydd bregethu. Gallwn telly fod yn lled sicr y cymerai yr ymweliadau hyn â Thalsarnau le ryw gymaint o amser yn flaenorol i'r flwyddyn 1780. O gylch y pryd hwn, gan hyny, y dechreuwyd cynal moddion yn achlysurol. "Ar y cyntaf," ebe Mr. Jones, Ynysgain, "byddai pregethu yn achlysurol mewn amrywiol leoedd yn yr ardal. Byddai odfeuon gerllaw Tyddyndu yn yr Ynys. Clywsom ein mam yn coffau am bregeth wrth y Tyddyndu pan yr oedd Mr. Owen Jones, yr offeiriad, yn dychwelyd o wasanaeth y Llan. Dangosai efe awydd cryf i ymosod arnynt, ond llwyddodd ein taid ar iddo dawelu. Bu pregethu yn Sabbothol yn yr Ynys liaws o flynyddau ar ol yr amser crybwylledig." Ond yn achlysurol y cymerai hyn le yn flaenorol i ffurfiad yr achos. Ysgrifenodd y diweddar Mr. J. Jones, Ynysgain, ychydig o hanes dechreuad yr achos yn Nhalsarnau, a chyhoeddwyd ef yn y Drysorfa, Tachwedd, 1867. Dywed ef i'r offeiriad crybwylledig wneuthur cymaint ag oedd yn ei allu yn erbyn y Methodistiaid, yn yr hyn y ceir graddau o eglurhad ar y ffaith i'r ardal hon fod ar ol yr ardaloedd cymydogaethol yn cychwyn yr achos. "Mr. Owen Jones, o'r Glyn, fel y mae yr hanes yn hysbysu, oedd elyn calon i'r Pengryniaid; ac oddiar ei fod yn oruchwyliwr ar diriogaeth Mr. Ormsby, o Porkington, amcanodd, can belled ag yr oedd ei ddylanwad yn cyraedd, i lyffetheirio pregethiad yr efengyl yn yr ardal." Y gwr a argyhoeddwyd gyntaf ynghylch mater ei enaid yn Nhalsarnau, ac a fu yn foddion i enill eraill at y Gwaredwr, ydoedd Robert Roberts, o'r Tŷ Mawr. Y mae hynodrwydd yn perthyn i ddechreuad ei grefydd ef, ac fel hyn y rhed yr