Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/399

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hanes am dano:—"Trwy ryw foddion daliwyd y gwr hwn â dychryn ynghylch mater ei enaid; ac i'r diben i dawelu gradd ar y storm, ymroddai i fyw yn foesol a dichlynaidd iawn. A'i yn gyson i'r eglwysi plwyfol o amgylch iddo i wrando yr offeiriaid. Ond er pob moddion o'r fath a ddefnyddid, nid oedd yn cyraedd gorphwysdra. Yr oedd rhyw eiriau o'r Beibl yn ymdroi yn barhaus yn ei feddwl, megis y rhai hyn,—'Mae un peth eto yn ol i ti,' a'r cyffelyb. Ond yn nghanol ei drallod clywodd fod rhyw offeiriad hynod yn Llanberis, yn Sir Gaernarfon. Codais,' ebe fe, "yn foreu ryw Sabbath, a chyrhaeddais yno erbyn y gwasanaeth boreuol. Pan oedd yn dechreu pregethu daliwyd fi â difrifwch, a deallais yn bur fuan mai gwir a glywswn i yn fy ngwlad am y pregethwr; canys nid oeddwn wedi clywed dim yn debyg erioed o'r blaen. Dangosai y pechadur fel un heb ddim da ynddo, a'i gyflwr yn llawn o drueni; ac O! fel y darluniai barodrwydd a chymhwysder y Gwaredwr, ac mor daer y galwai bechaduriaid ato! Aethum yno amryw Sabbothau olynol; ond unwaith wedi dyfod allan o'r Llan, pan oeddwn eto ar y fynwent, cyfeiriodd yr offeiriad ei gamrau ataf, a gofynodd i mi, o ba le yr oeddwn yn dyfod, a gwahoddodd fi i'w dŷ i gael ciniaw. Minau a aethum. Gofynodd y gwr parchedig i mi lawer o bethau ynghylch fy mater ysbrydol; a gofynodd hefyd paham y deuwn mor bell oddicartref i wrando. Dywedais fy mod i wedi bod yn y llanau o amgylch fy nghartref, ac wedi gwrando mor fanwl ag y gallwn, ond nid oeddwn yn cael dim tawelwch i fy ysbryd; ond fy mod yn cael gradd o hyny wrth wrando ar ei weinidogaeth ef. Gofynai drachefn,—

'A oes dim o'r bobl a elwir Methodistiaid yn pregethu yn yr ardal?"

'Oes,' ebe finau, ond ni fyddaf un amser yn myned i'w gwrando hwy.'

'Paham hyny?" ebe'r offeiriad.