Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/400

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'Wel, Syr,' ebe finau, 'deall a wnaethum mai y gau broffwydi a ddarlunir gan Judas a chan yr apostolion eraill ydynt, y rhai y dylwn ar bob cyfrif eu gochel.'

'Nage,' ebe'r offeiriad, 'ond oddiar ragfarn a gelyniaeth yn unig y darlunir hwy felly. Byddai yn dda genyf fi fy hun gael cyfleusdra i'w gwrando yn fynych. Nid oes dim gwahaniaeth rhyngddynt hwy a minau mewn athrawiaeth; oblegid yr un Beibl ydyw testyn ein pregethau, yr eiddynt hwy a'r eiddof finau. Cynghorwn chwi, druan, gan hyny, i ymuno â hwy.' Ymuno â'r Methodistiaid a wnaeth, yn ol cyngor offeiriad Llanberis, a threuliodd weddill ei oes yn ffyddlawn iawn yn eu plith. Bu ei dŷ o hyn allan yn gartref i arch Duw, ac yn llety clyd i weinidogion y Gair, lle y derbynient hwy a'u hanifeiliaid ymgeledd a chroesaw."-Methodistiaeth Cymru, I., 303.

Robert Roberts fu yn foddion i sefydlu yr achos. Ceisiai ef bregethwyr i ddyfod i'r ardal i bregethu, a chadwai hwy a'u hanifeiliaid ar ei draul ei hun. Arno ef yn bersonol y disgynai cario yr achos ymlaen ymron yn llwyr. Gwellhaodd ei amgylchiadau bydol yn fawr yn fuan wedi iddo ymuno â chrefydd, a phriodolai yntau hyny yn gwbl i'w waith yn derbyn Arch Duw i'w dy, ac yn myned i dipyn o drafferth a thraul gyda'i achos. Adeiladodd neu pwrcasodd dŷ i gynal moddion gras ynddo, yn mhentref Brynybwbach, neu Bryn-y-bwa-bach. Yr oedd yno hefyd ystafell, a bwrdd ac ystol, a gwely i'r llefarwyr aros dros nos, a Catherine Morris, o'r Garthbyr, fyddai yn gofalu am danynt hwyr a boreu. Yn Mrynybwbach y byddai y bregeth y Sabbath, ac yno y cynhelid y cyfarfod eglwysig dros amryw flynyddau ar y cyntaf. Sefydlwyd yr eglwys, fel y dywedwyd, yn rhywle yn agos i ddiwedd y ganrif ddiweddaf. Y mae enwau yr aelodau wedi eu croniclo mewn llyfr, gan Dafydd Sion James, yn y flwyddyn 1803. Wedi i'r achos fod am ryw dymor yn y capel bach, fel ei gelwid, sef yn Bryn-