Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/401

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bwbach, symudodd yn gwbl oll i'r Tymawr, Talsarnau; "ac mewn siamber yno y cynhelid y cyfarfodydd eglwysig. Bu Cyfarfodydd Misol yn Tymawr, a bu Mr. Charles, a John Roberts, Llangwm, yno yn pregethu." Bu Robert Roberts farw yn y flwyddyn 1817, mewn henaint teg, wedi bod yn offerynol yn llaw Rhagluniaeth i gychwyn yr achos yn Nhalsarnau, ac wedi dangos ffyddlondeb tuhwnt i'r cyffredin yn ei ddygiad ymlaen. Brawd arall ffyddlon gyda'r achos yn ei gychwyniad ydoedd William Roberts, Maesycaerau, gwr llym yn erbyn ymddygiadau anfoesol y wlad.

Adeiladwyd y capel cyntaf yn Nhalsarnau yn y flwyddyn 1813, a Dafydd Cadwaladr a lefarodd ynddo ar Sabbath ei agoriad. Prynwyd y tir yn feddiant yn 1827, ond ni ddywedir am ba swm. Chwanegwyd at ei led yn 1839, ac ymhen tua phymtheg mlynedd wedi hyny, rhoddwyd oriel arno. Yn 1865, prynwyd tir yr ochr arall i'r ffordd, am yr hwn y talwyd 74p. 9s., a'r flwyddyn hono adeiladwyd y capel presenol, a gwerthwyd yr hen gapel. Yn ol Meddianau y Cyfundeb am 1882, gwerth y capel a'r eiddo perthynol iddo y flwyddyn hono ydoedd 1700p. Wedi bod dros dymor hir o dan faich trwm o ddyled, lleihawyd hi yn raddol, ac yn 1887, rhoddwyd oriel (gallery) ar y capel, yr hon a gostiodd oddeutu 360p. Y mae yn awr yn gapel hardd a chysurus. Ar ddiwedd 1889 y ddyled oedd 480p. Os. 1½c.

Tua'r flwyddyn 1807, sefydlwyd Ysgol Sabbothol yn yr Ynys, yr hon a hanodd o'r frawdoliaeth Fethodistaidd a ymgynullai yn mhentref bychan, mynyddig, Brynbwbach. Prif offerynau ei sefydliad oeddynt Sion William, y Carpenter, a Mrs. Jennett Jones, o'r Tycerig. Dywedir i'r ysgol hon ymgartrefu, byw, a chynyddu mewn adeiladau perthynol i deulu Tycerig am ysbaid o 61 o flynyddau. Yn y flwyddyn 1868, adeiladwyd ysgoldy yn yr Ynys, lle, er y pryd hwnw, y cynhelir yr ysgol, ac y ceir pregeth unwaith y Sabbath mewn