Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/402

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cysylltiad â Thalsarnau. Ar ddiwedd 1889, rhifai yr ysgol hon 68.

Y PARCH. DAVID WILLIAMS.

Treuliodd ef ei oes, a hono yn oes hir, bron yn gwbl mewn cysylltiad â'r achos yn Nhalsarnau. Efe a anwyd yn Hendreadyfrgi, gerllaw Harlech. Ymunodd â'r eglwys yn y Dyffryn, a phan yn cael ei dderbyn yno, cynghorai Harry Roberts ef ar iddo wylio rhag cyfarfod â'r hyn a ddigwyddodd i lawer-peri rhoddi bar du ar draws ei enw. Symudodd i wasanaethu i'r Tymawr yn yr ardal hon yn 1804. Yn fuan, oddiar anogaeth Mr. Charles, dechreuodd gadw Ysgol Sul yn y capel bach, Brynbwbach. Dechreuodd bregethu o gylch 1814. Bu farw yn lled sydyn yn Gwyddelfynydd, tra yn aros am wythnos i gadw cyfarfodydd eglwysig yn nghymydogaeth Towyn, Rhagfyr 7, 1854, wedi bod yn proffesu Mab Duw am 55 o flynyddoedd, ac yn ei bregethu am o gwmpas 40 mlynedd. Gŵr cydnerth o ran lluniad ei gorff ydoedd, ac o edrychiad dipyn yn sarug. Ni chafodd gymaint o dalentau, na rhai mor ddisglaer â rhai o'i frodyr, ond treuliodd ei oes yn ffyddlawn a diwastraff yn ngwinllan ei'Arglwydd. Yr oedd ei gymeradwyaeth fel pregethwr yn cynyddu yn hytrach na lleihau hyd ddiwedd ei oes, a'r rhai mwyaf cymeradwy o hono oeddynt eglwys a chynulleidfa Talsarnau.

Robert Roberts, fel y crybwyllwyd, a roddodd gychwyniad i'r achos; ar ol ei farwolaeth ef yn 1817, bu llecyn trymaidd dros yr eglwys am dymor; graddau o gam-olygiad am bethau allanol. Nid oedd yma ar y pryd yr un blaenor o osodiad rheolaidd, na'r un wedi bod o gwbl. Yn y cyfwng hwn, ymgymerodd Richard Jones, Tyceryg, ar gais ei frodyr, i ofalu ar gael pregethwyr i'r daith. Bu ef yn ddiwyd hyd ei fedd gyda darparu ymhob modd ar gyfer yr achcs. Ei briod hefyd oedd wraig o dymer arafaidd, ddwys, a phrofiadol, a thra ymroddgar i ddilyn moddion gras hyd ei marwolaeth yn 1838. Ni ym-