Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/403

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

welwyd â Thalsarnau yn gymaint a llawer lle âg adfywiadau nerthol a chyffrous, oddigerth yn 1817. Yn hytrach, enillai y gwirionedd galonau y bobl yn raddol. Yn ystod y deng mlynedd, o 1830 i 1840, lliosogwyd rhif yr eglwys o ddeugain i gant. Yma, yn y tymor hwn, fel y cofir, y dibenodd y Parch. Richard Jones, y Wern, ei lafur yn ngwasanaeth ei Arglwydd. Ymhen ysbaid o amser drachefn, sef oddeutu 1849, symudodd Mr. Morgan Owen a'i deulu o'r Dyffryn i fyw i'r Glyn. Y mae rhai o'r teulu wedi bod yn cyfaneddu yno am dymor, ac yn Rhosigor drachefn, o hyny hyd yn awr, ac wedi bod bob amser yn gynorthwy mawr i ddygiad yr achos ymlaen yn Nhalsarnau yn ei holl gysylltiadau. Ceir rhestr o'r swyddogion yn mhellach ymlaen. Bu amryw yn ddiameu o wasanaeth i grefydd heblaw hwy, er na ddaeth i'n llaw enwau dim ond rhyw ddau neu dri yn ychwanegol at y rhai a grybwyllwyd. Lawer o amser yn ol, bu un Hugh Williams, genedigol o Rostryfan, o gryn wasanaeth mewn addysgu yr ieuenctyd gyda chaniadaeth y cysegr. Ymfudodd o'r ardal i America. Y mae yn deilwng o goffhad hefyd fod yr arweinydd canu presenol, Mr. Owen Roberts, wedi bod yn wasanaethgar a ffyddlon yn ei swydd am 50 mlynedd. Arferai y Parch. G. Williams adrodd hanesyn am grefyddolder Ann Williams, priod y pregethwr adnabyddus, David Williams. Pan yr aeth ef i dŷ yr hen chwaer weddw ryw ddiwrnod, yn agos i ddiwedd ei hoes, yr oedd yn eistedd ei hunan a'r Beibl yn agored ar y ford o'i blaen, a dywedai wrth G. Williams ar ei fynediad i'r tŷ, "Wyddoch chi beth oeddwn i yn ei wneyd cyn i chi ddod i'r tŷ? Hel twr o adnodau at eu gilydd, a cheisio dyfalu uwch eu penau pa un o honynt fyddai fwyaf tebyg o weinyddu cysur i mi wrth fyned trwy yr hen Iorddonen, ac yr ydw i yn meddwl yn bur siwr mai yr adnod hono fydd hi—Cyfamod tragwyddol a wnaeth efe â mi, wedi ei luniaethu yn hollol ac yn sicr: canys fy holl iachawdwriaeth a'm holl ddymuniad yw.'" Catherine