Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/404

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Jones, priod y blaenor Richard Jones, Brynbwbach, oedd engraifft ragorol o wragedd crefyddol yr oes o'r blaen. Byddai hi yn fynych yn gorfoleddu o dan weinidogaeth y Gair. Un adeg, ar amser cyfarfod pregethu blynyddol y Penrhyn, yr oedd ei choes yn ddrwg fel ag i'w hanghymwyso yn hollol i fyned o'r tŷ, a cheisiai ei gŵr ei pherswadio i aros gartref. Mynu myn'd, modd bynag, i'r Penrhyn a wnaeth. Aeth ei gŵr yno ar ei hol, ac erbyn iddo gyraedd, yr oedd yn orfoledd mawr yn y lle, ac ar fynediad i'r capel, pwy a welai yn neidio can uwched a neb oddiwrth y llawr, ond Catherine, ei wraig ei hun gyda'i choes ddrwg. Yn hanes yr eglwysi eraill yr ydys wedi gweled i'r eglwys hon fod yn daith am hir amser gyda Harlech, a chyda Harlech a'r Gwynfryn yn flaenorol. Er y flwyddyn 1866, mae Talsarnau yn daith ar ei phen ei hun, a chyfrifir hi y 30 mlynedd diweddaf yn eglwys gymhariaethol gref. Yma y cychwynodd y Parch. Hugh Roberts, y Graig, Sir Aberteifi, i'r weinidogaeth; ei flwyddyn brawf yn dechreu Mai, 1876.

A ganlyn ydyw rhestr y blaenoriaid:—

JOHN JONES, TYMAWR.

Efe oedd y blaenor cyntaf a alwyd yn ol y dull arferol o ddewis blaenoriaid. Cymerodd hyn le yn rhywle o gylch 1825. Genedigol ydoedd ef o Lanfrothen. Ymunodd â chrefydd yn Harlech, tra yn gwasanaethu yn Tyddynyfelin. Ar ol marw Robert Roberts, daeth yn was at ei weddw, Catherine Roberts, ac ymhen pum mlynedd priodasant. Treuliodd y rhan ddiweddaf o'i oes yn y Tycerig. Ar ei ysgwyddau ef y gorphwysai yr achos am dymor, ac ymgymerai yntau â'r oll yn dra ffyddlon. Yr oedd ei dŷ yn westy fforddolion, a'i ystabl wedi ei chysegru i ddibenion yr efengyl. Profodd argyhoeddiad grymus yn nechreuad ei grefydd. Y rhai a'i hadwaenent a ddywedent ei fod yn hynod mewn duwioldeb,