Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/405

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'i gymeriad yn wywdra i ryfyg annuwiolion yr ardal. Cyfrifir ef hyd heddyw fel un o wyr urddasol eglwys Talsarnau. Bu farw yn niwedd y flwyddyn 1859.

JOHN JONES, YSW., YNYSGAIN.

Ganwyd ef yn Plas Uchaf, Ionawr 5, 1803. Perthynai ei rieni i'r Eglwys Sefydledig, ac yno y dygwyd yntau i fyny hyd nes oedd yn 27 oed, er yr elai pan yn ieuanc i Ysgol Sul y Methodistiaid. Yn y flwyddyn 1830, wedi cryn ymrysonfa yn ei feddwl, oddiar argyhoeddiad cydwybod oleuedig, gadawodd y Llan, ys dywedai, a bwriodd ei goelbren yn llwyr ac yn hollol gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Oherwydd ei fod o deulu cyfrifol, ac yn wr boneddigaidd a chrefyddol, ac yn llawn o ysbryd gwaith, gosodwyd ef ar unwaith mewn amryw swyddi. Mai 13, 1834, dewiswyd ef yn flaenor yn eglwys Talsarnau. Am ddeng mlynedd o amser o'i ymuniad a'r Ymneillduwyr, llanwodd le pwysig yn ei ardal, a'r ardaloedd cylchynol, ac yn y sir. Bu yn ysgrifenydd Cyfarfod Ysgolion Dosbarth y Dyffryn am wyth mlynedd. Pan ranwyd y sir yn ddau Gyfarfod Misol dewiswyd ef yn ysgrifenydd Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, a'i enw ef sydd wrth y cofnodion cyntaf. Ond yn mis Tachwedd, 1840, symudodd Mr. Jones o'r Plas Uchaf i Ynysgain. Dewiswyd ef yn swyddog drachefn yn eglwys Criccieth, lle y parhaodd i weithio hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Tachwedd 30, 1875, yn 72 oed.

MORRIS JONES, CEFNGWYN.

Efe a dderbyniwyd yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor yr eglwys hon Rhag 6, 1843. Mab Tycerig ydoedd, lle a fu yn gefn i'r Ysgol Sabbothol yn yr Ynys o'i chychwyniad, ac i'r achos yn gyffredinol yn Nhalsarnau, a chafodd y mab awyrgylch grefyddol i droi ynddi o'i ieuenctid, a gadawodd y yfryw awyrgylch ei hôl arno. Yr oedd yn wr cywir, ffyddlon, a chrefyddol, a'i gymeriad yn uchel ymysg ei gymydogion, yn