Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/406

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gystal ag yn yr eglwys yr oedd yn swyddog ynddi. Wedi gwasanaethu y swydd yn anrhydeddus am ugain mlynedd, bu farw Tachwedd 29, 1862. Dilynodd ei blant oll yn llwybrau crefydd ar ei ol. Mab iddo ef oedd y blaenor gweithgar ac ymroddedig Mr. Richard Jones, Shop Newydd, Dolgellau, ac y mae y mab arall, Mr. John Jones, yn flaenor defnyddiol yn Nhalsarnau yn awr. Merched iddo ef ydyw priod y Parch. Robert Thomas, Llanerchymedd, a phriod y Parch. O. T. Williams, Rhyl.

RICHARD JONES, BRYNBWBACH.

Galwyd yntau yn flaenor yr un amser a Morris Jones, Cefngwyn, a bu fyw o gylch tair blynedd ar ei ol. Yr oedd ef yn ysgrythyrwr a duwinydd da, ac yn un o'r hen grefyddwyr a gasglasant eu holl wybodaeth c'r Beibl. Trwy wasanaethu y swydd yn dda, enillodd "radd dda, a hyfder mawr yn y ffydd sydd yn Nghrist Iesu." Bu farw Awst 13, 1865. Bu yma amryw yn gwasanaethu y swydd heblaw yr uchod, rhai am dymor byr, a rhai wedi symud i gysylltiad ag eglwysi eraill, lle y gwelir coff had am danynt. Morgan Owen, y Glyn, a fu yn ddiacon parchus yma am 15 mlynedd,—coffheir am dano mewn cysylltiad â'r Dyffryn. Bennett Jones, a dderbyniwyd i'r Cyfarfod Misol Mawrth, 1866,-bu farw cyn pen hir wedi hyn. D. Jones, Glanywern, a fu yn flaenor, ond ymadawodd at y Bedyddwyr. Evan Roberts, a neillduwyd yn 1874,bu farw ymhen tair blynedd; Owen Jones a neillduwyd yr un amser, ac a symudodd i Ffestiniog; H. J. Hughes a ddewiswyd yn 1872, ac a symudodd i'r Penrhyn; Mr. R. Rowland, ysgolfeistr, ymadawodd i'r Penrhyn; G. Evans, ysgolfeistr, ymfudodd i America; Richard Lloyd,-ymadawodd i Borthmadog. Y mae un arall wedi bod mewn cysylltiad hwy a'r eglwys na'r brodyr a enwyd, sef Mr. O. Owen, gynt o'r Glyn. Neillduwyd ef yn flaenor yn nechreu y flwyddyn 1857. Bu