Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/407

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei wasanaeth yn dra chymeradwy ac o werth mawr i'r eglwys tra bu yn trigianu yn yr ardal. Ac fel prawf o hyny, yn y flwyddyn 1867, sef yn fuan ar ol gorphen adeiladu y capel presenol, cyflwynodd yr eglwys anrheg o 45p. iddo ef a'i briod. Symudodd i fyw i'r Penrhyn yn 1873. Y mae ei wasanaeth wedi bod yn fawr hefyd mewn amryw gylchoedd yn y Cyfarfod Misol, yn enwedig ei ffyddlondeb yn y swydd o Drysorydd y Genhadaeth Sirol am ysbaid o ugain mlynedd. Y blaenoriaid yn bresenol ydynt Mri. W. Jones, Cadben Ed.. Williams, Thomas Davies, John Jones, a Robert Jason.

Y PARCH. GRIFFITH WILLIAMS.

Yn Nhalsarnau y treuliodd ef ei oes gyhoeddus bron yn gwbl, ac enillodd y cymeriad o fod yn un o golofnau yr eglwys gymaint a neb yn ystod amser ei ymdeithiad yn yr ardal. Tuag at i'r hanes fod yn gyflawn, gosodir i lawr yma y prif ffeithiau yn amgylchiadau ei fywyd, er fod Cofiant iddo wedi ei gyhoeddi ryw bedair blynedd yn ol. Efe a anwyd yn mhentref Dolwyddelen, yn y flwyddyn 1824. Ei rieni, y rhai oeddynt bobl wir grefyddol, a symudasant, tra yr oedd ef yn bur ieuanc, i fyw i Rhiwbryfdir, Ffestiniog, ac yn yr ardal hono y tyfodd i fyny, ac y ffurfiodd ei gymeriad. Gan nad oedd yn ei elfen gyda phethau y bywyd hwn, rhoddodd ei fryd ar fyned i bregethu, a thraddododd ei bregeth gyntaf yn hen gapel Tanygrisiau, Mawrth 13, 1848. Bu yn Athrofa y Bala am bedair blynedd. Ar ol gorphen ei amser yno, aeth i Lanarmon Dyffryn Ceiriog, i gadw ysgol ddyddiol. Aeth trwy amgylchiadau boreuol ei fywyd gan gadw ei gymeriad yn bur a dilychwin, a thrwy ei elfen gymdeithasgar, ynghyd â llawer iawn o naturioldeb, enillodd iddo ei hun y tymor hwn lawer o gyfeillion.

Yn y flwyddyn 1855, ymsefydlodd yn Nhalsarnau, ac yn yr un flwyddyn, priododd gyda Miss Sarah Jones, merch y di-