oeddynt, Lowri Williams a'i nith Gwladys Jones; Edward. Roberts, y gwehydd (wedi hyny yn bregethwr), a'i wraig ; Robert ei frawd a'i wraig; a John Humphreys, Gwylan, a'i ferch. Chwanegwyd atynt cyn hir bump eraill, yn mysg y rhai yr oedd Griffith Ellis y soniwyd eisoes am dano. Yr oedd. yr ychydig nifer hyn yn preswylio yn mhell oddiwrth eu gilydd,—un gerllaw Harlech; un arall yn mhlwyf Llanfrothen; un arall yn Ffestiniog; ac un arall yn Nhrawsfynydd. Yr oeddynt fel pe gwasgerid hwy yn fwriadol, fel y chwelid perarogl yr efengyl a hyny yn fwy ar led, ac y rhoddid iddynt. gymaint a hyny o fantais i fod yn fwy defnyddiol i ledaenu achos yr efengyl yn y wlad."—Methodistiaeth Cymru, I., 496 499.
Oddiwrth yr hanes uchod, gallwn gasglu yn bur sicr mai i Ffestiniog yr oedd y gwr ieuanc, y bu Lowri Williams yn ei gynghori, yn myned; a chan mai y Sabbath oedd hi, tra thebyg ydyw mai Gwylmabsant a gedwid yno oedd y cyfarfod llygredig y cyrchai y llanc iddo. Yr oedd wedi dyfod y boreu Sabbath hwnw, ar hyd yr hen ffordd, a'r unig ffordd y pryd hwnw, os oedd yno ffordd er hyny, trwy Landecwyn, a phentref Brynbwbach, ac yna heibio i gapel presenol Llenyrch, ac uwchlaw cŵr uchaf Rhaiadr Du, nes yr oedd ar unwaith wrth dy Pandy-y-Ddwyryd. Hono oedd y ffordd unionaf, er mor arw ydoedd, o'i gartref, gerllaw Harlech, i Ffestiniog. Cawn ddychwelyd eto i adrodd hanes y llanc hynod hwn, ac i sylwi ar y personau eraill a ddeuent o bellder ffordd, i wneyd i fyny "deulu yr arch." "Onid yw yr un ffunud a gwaith Duw? Gwelwch fel y mae Efe yn goleuo un ganwyll yn Harlech, un arall yn Llanfrothen, y drydedd yn Nhrawsfynydd, a'r bedwaredd yn Ffestiniog. Yr oedd hyn yn arwydd fod Duw am lanw yr holl ardaloedd hyn âg efengyl Crist."[1] Nid oes dim
- ↑ "Pandy-y-Ddwyryd" yn Nghronicl yr Ysgol Sabbothol, 1880), 85. Parch. G. W., Talsarnau.