Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn fwy eglur yn yr hanes na bod llaw Rhagluniaeth ddwyfol i'w gweled drwyddo oll. Llai na 150 o flynyddoedd sydd er pan nad oedd yr holl eglwysi lliosog yn y cwmpasoedd hyn ddim ond wyth enaid. "Yn lle wyth o aelodau, yr oedd eu rhif yn 1849 yn 1717, a'r capeli yn 23, o fewn y dosbarth hwn o'r wlad." Erbyn hyn, mae yr aelodau gryn lawer yn fwy na chymaint arall â'r nifer hwn. Ffaith nodedig arall yn profi ffyddlondeb crefyddwyr cyntaf y wlad ydyw, y byddai y brodyr o'r Bala yn dyfod cyn belled â'r lle hwn, i gynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddio ac i ddarllen y Beibl. Adroddai yr hen bregethwr John Evans am dano ei hun, cyn iddo ddechreu pregethu (yn 1765), y byddai ef a dau frawd arall yn cychwyn o'r Bala ar foreu y Sabbath, i gadw cyfarfod gweddi yn Mlaenlliw am naw, a Phandy-y-Ddwyryd am ddau o'r gloch, a dychwelyd yn ol i'r Bala yr un diwrnod, a hyny ar -eu traed; pellder, dybygid, oddeutu 35 milldir. Dywedai yr hen batriarch, wrth adrodd yr hanes, y buasai yn dda ganddynt gael bara a chaws yn Nhrawsfynydd wrth ddychwelyd, "Ond yr oedd yn rhaid i ni," meddai, "gadw ymhell oddiwrth y pentref hwnw."

Ymysg y nifer a ychwanegwyd at yr wyth cyntaf yn Pandy-y-Ddwyryd, heblaw G. Ellis, Pen-yr allt, yr oedd amryw o wragedd, Jane Thomas, Ogof-llochwyn, Llanfrothen; Martha, gwraig J. H., dilledydd, Ffestiniog; Margaret Ellis, Ty'nypant, Llandecwyn; Elizabeth, Tyddyn Sionwyn, Llanfihangel. Yr oedd Margaret Ellis yn analluog i gerdded, ac oblegid hyny byddai yr aelodau crefyddol yn cyfarfod yn fynych yn Ty'nypant, i gynal cyfarfodydd, a dywedir fod Lowri Williams wedi gweinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd, gyda bara a dŵr, yn y tŷ hwn lawer gwaith. Y mae Ty'nypant, er's llawer blwyddyn, yn hen furddyn heb neb yn preswylio ynddo. Erys y waliau yn gyfan eto, ond y tô wedi syrthio iddo. Saif hwn ar ben trumell Ceunant Llenyrch, gyda banc bychan, a'r