Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

coed gerllaw, yn ei gysgodi rhag gwynt y gorllewin, o fewn rhyw chwarter milldir i ffermdy Llenyrch. Gofaled pob pregethwr a elo i daith Maentwrog, wedi bod yn cael cwpanaid o de gyda theulu caredig Llenyrch, am edrych ar y llaw dde, oddeutu chwarter milldir oddiwrth y tŷ, pan yn myned rhyngddo â Maentwrog Isaf at y nos, ac fe wel ei fod o fewn ergyd careg i'r hen fwthyn cysegredig, lle bu ychydig frodyr a chwiorydd crefyddol, yn y modd mwyaf syml, yn gwneuthur coffa am angau rhyfedd y Gwaredwr. Amlwg ydyw fod yr ychydig grefyddwyr hyn yn crefydda yn dda o dan anfanteision mawrion. Nis gallent fyned i Langeitho i'r Cymundeb, fel y byddai llawer yn myned; ac yr oedd yn well ganddynt gyfranogi o'r Sacrament fel y gallent, na myned i Eglwys y Plwyf yn y stad ddigrefydd yr oedd pethau ynddi y pryd hyn. Ac heblaw hyny, erbyn hyn, yr oedd y llanwyr wedi dyfod yn elynion mawr i "deulu yr arch." Cyfarfuwyd yma hefyd âg erledigaeth chwerw, ac ni ddylid myned heibio heb ei adrodd. Y mae yr hanes yn debyg i hyn,—

Un tro yr oedd Mr. Thomas Foulkes, o'r Bala, wedi hyny o Machynlleth, yntau hefyd yn un o gynghorwyr cyntaf y sir—yn pregethu yn nhŷ John Humphreys, Gwylan, gerllaw Pandy-y-Ddwyryd. Yr oedd John Humphreys yn un o'r "wyth enaid" y cyfeiriwyd atynt, ond gallwn dybio mai ymhen rhai blynyddau wedi dechreu ymgynull yn Pandy-y- Ddwyryd, y traddodwyd y bregeth hon yn ei dŷ. Modd bynag, ymwthiodd yr erlidwyr i mewn i'r tŷ, ymaflasant yn y pregethwr, ac yn Lowri Williams, gan eu taflu i'r afon. "Yn y codwm cafodd Lowri Williams ei niweidio yn drwm, trwy iddi ddisgyn ar gerig yn yr afon, a daeth adref wedi ei llychwino gan waed, ac wedi ei hanafu yn gymaint yn y codwm ag y bu yn gorwedd am enyd o amser." Ei mab, Rowland Jones, pan welodd y cam a wnaethpwyd a'i fam, a benderfynodd geisio amddiffyn y gyfraith, os oedd amddiffyn i'w gael.