Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/414

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei grefydd. Byddai ei ofal yn fawr am achos yr Arglwydd yn wastad. Yn ei dy ef y lletyai llawer o weinidogion a phregethwyr ar y Sabbothau, ac ni theimlent yn fwy cartrefol yn unman. Dewiswyd ef yn flaenor yn eglwys Llanbedr yn y flwyddyn 1860. Trwy ddiwydrwydd ac ymroad bu yn "ffyddlawn yn yr holl dŷ." Nid un o'r rhai trystfawr ydoedd, ond gweithiwr distaw a chyson, un yr ymddiriedai ei frodyr unrhyw beth iddo, ac yr oedd pwysau a dylanwad mwy na chyffredin yn ei gymeriad. Ymaflodd afiechyd ynddo gryn amser cyn iddo gael ei gymeryd ymaith; yn yr amser hwn dangosai dawelwch mawr. Bu farw yn Llandrindod, lle yr aethai i ymofyn am leshad, Awst 13eg, 1872, yn 48 mlwydd oed. Gorphwysa yn dawel, gyda llawer o ragorolion y ddaear, y tu cefn i'r capel.

JOHN LLOYD

Prin ddeng mlynedd gafodd ef wasanaethu yn y swydd o flaenor. Yr oedd yn ŵr duwiol, selog, a ffyddlawn, a chrefydd yn y rhan olaf o'i oes fel wedi ei feddianu yn llwyr. Byddai graddau helaeth o deimlad yn ei feddianu wrth wrando yr efengyl. Bu farw ar ol ychydig o gystudd, Chwefror 3ydd, 1881, yn 63 mlwydd oed.

CADBEN GRIFFITH, TYDDYN Y PANDY.

Mawrth 3, 1873, y derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor yn yr eglwys hon. Treuliodd lawer o'i amser gyda'i orchwylion ar y môr, ac felly nid oedd wedi cael y fantais i ymarfer llawer â phethau cyhoeddus crefydd. Yr oedd, modd bynag, wedi cyraedd sefyllfa gyfrifol gyda'r byd a chrefydd. Bu o lawer o wasanaeth i achos yr Arglwydd yma, yn enwedig mewn pethau arianol. Ei barodrwydd a'i ewyllysgarwch i bob achos da oeddynt ganmoladwy. Bu farw yn ei long ar y môr, ddechreu Mawrth, 1883, a dygwyd ef i dir i'w gladdu.