Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/413

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arwyddair o'i gymeriad ydyw, "Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll."

WILLIAM RHISIART.

Mae yr hyn a ganlyn yn gerfiedig ar gareg ei fedd, y tucefn i'r capel: "William Richard, Tyddynypandy, yr hwn a fu farw Ebrill 7, 1868, yn 86 mlwydd oed. Yr oedd yn Gristion cywir, ac yn un a berchid gan bawb; treuliodd oes ddifwlch o broffes grefyddol, a gwasanaethodd y swydd o ddiacon am yr ysbaid o 60 mlynedd gyda ffyddlondeb mawr." Elizabeth ei wraig a fu farw Mawrth 21, 1879, yn 90 oed. Yr oedd hi yn wraig nodedig o grefyddol, a gadawodd argraff er daioni ar ei gŵr. Er o ddoniau bychain, cydnabyddid William Rhisiart yn ŵr crefyddol, duwiol, ac o ansawdd dyner ei ysbryd. Yr olwg arno yn niwedd ei oes oedd yn batriarchaidd. Perthynai i'w fywyd ddau ddigwyddiad arbenig. Efe a arweiniodd y Parch. Richard Humphreys i'r seiat y tro cyntaf. Efe, hefyd, yn un o dri, a anfonwyd dros y Cyfarfod Misol, a gynhaliwyd Rhagfyr 1 a'r 2, 1840, i'r Dyffryn i gymeryd llais yr eglwys ar gychwyniad y Parch. Edward Morgan i bregethu. Ymffrostiai yr hen bererin yn hyn, ac arferai ddweyd mewn cwmni lle byddai Mr. Morgan yn bresenol, "Y fi fu yn rhoi tenyn yn ei ben o."

ROWLAND JONES. Rhestrir yntau yn arbenig yn un o wyr urddasol eglwys Llanbedr. Yma y daeth ei grefydd i'r golwg, ac yma y bu o ddefnyddioldeb mawr. Yr oedd yn enedigol o'r Tyddynbach, Dyffryn. Dygwyd ef i fyny yn fasnachwr; a phan o gylch un ar hugain oed agorodd fasnachdy yn Llanbedr. Dechreuodd haul llwyddiant yn fuan dywynu arno, a pharhaodd i lwyddo nes y daeth i droi mewn cylch eang iawn fel masnachwr. Llwyddodd ei grefydd hefyd yr un modd a'r un pryd a'i amgylchiadau bydol. Yr oedd wedi derbyn argraffiadau crefyddol er yn fachgen, ac ni fu enill cyfoeth yn un atalfa ar