Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/412

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

4c. Casglwyd mewn arian, 163p. 14s. 103c., ynghyd â'r swm uchod at ddodrefnu, gan adael y gweddill, ar y pryd, heb ei dalu. Mewn Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn Llanbedr, Tachwedd, 1874, ceir yr hysbysiad canlynol yn y cofnodion,"Yr oedd yr eglwys wedi ymgymeryd â thalu dyled y capel, sef 300p. oedd yn aros, ac mewn pedwar mis o amser, ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf (1873), cliriwyd y swm hwn oll, fel y mae y capel yn awr yn hollol glir, a gwedd lewyrchus ac addawol ar bob rhan o'r achos yn y lle." Y mae Llanbedr yn daith arni ei hun er y flwyddyn 1873.

Yr hyn sydd yn ngweddill i'w groniclo am yr eglwys hon ydyw crynhodeb o hanes ei swyddogion. Pan sefydlwyd hi gyntaf, yr oedd dau o hen swyddogion y Gwynfryn yn dyfod yma gyda hi, sef Rees Jones a William Rhisiart, ac ar eu hysgwyddau hwy, yn benaf, y bu y gwaith yn gorphwys am rai blynyddoedd. A ganlyn ydyw ychydig o'u hanes hwy, a'r rhai a'u dilynasant:—

REES JONES (RHYS SION)

Yr oedd ef yn un o flaenoriaid cyntaf y Gwynfryn. Edrychid arno fel cymeriad tra adnabyddus, ac y mae coffa mynych am dano hyd heddyw fel un o'r rhai ffyddlonaf gyda'r achos. Coffheir am dano fel gwrandawr rhagorol; cerddodd lawer i wrando hen bregethwyr Cymru; gwyddai lawer o'u hanes, a byddai yn teimlo yn ddwys o dan eu gweinidogaeth. Efe oedd un o'r rhai penaf a wnaeth ymdrech i gael capel yn Llanbedr, ac yr oedd yn arbenig yn ei sel yn casglu tuag ato. Ond ar ol ei ymdrech gydag ef, rhyw dair blynedd fu ei oes ynddo. Bu farw Rhagfyr 29, 1859, yn 75 mlwydd oed. Pregethodd y Parch. E. Morgan yn ei angladd ar "Hanes Lazarus." Dywedid pethau lled ddigrifol am dano yn ystod ei fywyd. Ond yr adnod ar gareg ei fedd, yr hon, debygid, a fwriedid fel