Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/411

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

at y draul. Arhosed bendith ar ei goffadwriaeth. Y mae gweithred fel hon yn teilyngu cael ei chroniclo.

Dyddiad y brydles ydyw Gorphenaf, 1856. Ardreth flynyddol 1p. 10s. Mae tir y fynwent o'r tucefn i'r capel yn gynwysedig yn hwn. Yr hysbysiad cyntaf am yr achos yn Llanbedr ar lyfrau y Cyfarfod Misol ydyw, y penderfyniad canlynol a wnaed yn Nghyfarfod Misol Abermaw, Mawrth 3, 1856, "Gofynwyd caniatad gan gyfeillion y Gwynfryn i adeiladu capel yn Llanbedr. Dywedent eu bod yn barnu y gallent gasglu digon o arian tuag at ei adeiladu yn y gymydogaeth, fel na byddai raid iddynt ddyfod at y Cyfarfod Misol i ofyn am ddim cymorth tuag at hyny. Cydsyniwyd â'r cais." Agorwyd y capel Rhagfyr 3, a'r 4, 1856. Pregethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Robert Williams, Aberdyfi, Joseph Thomas, Carno, a John Jones, Talsarn. Casglwyd ddiwrnod ei agor, 5p. 10s. Oherwydd fod y ddeddf mewn grym, nad oedd yr un capel i gael ei agor a dyled arno, gwnaeth y cyfeillion yma ymdrech arbenig at ddwyn y draul, a chan na cheir dim dyled ar gyfer cyfrifon y capel y blynyddoedd dilynol, cymerir yn ganiataol iddo gael ei agor yn ddiddyled. Yr holl draul, yn ol cof y rhai sydd yn fyw yn awr oedd ychydig dros 300p. Ymhen y flwyddyn ar ol agor y capel, sef ar ddiwedd 1857, y cyfrifon ydynt: cymunwyr, 62; gwrandawyr, 180; Ysgol Sul, 135; cyfanswm y casgliadau, 38p. 19s. 1c. Ymhen deng mlynedd aeth y capel yn rhy fach, a bu raid rhoddi darn ato, trwy ei estyn yn nes i'r ffordd. Felly, yn mis Chwefror, 1867, yr ydym yn cael y Cyfarfod Misol yn pasio penderfyniad drachefn, "Cydsyniwyd i eglwys Llanbedr gael helaethu eu capel yn ol y cynlluniau a ddodwyd gerbron y cyfarfod." Ar ei ail agoriad, pregethwyd ynddo yn gyntaf gan y gweinidog, y Parch. D. Jones, ar y geiriau, "Bydd mwy gogoniant y tŷ diweddaf hwn na'r cyntaf." Aeth y draul y waith hon yn 463p. 14s. 103c. Dodrefniad y capel, 47p. 17s.