Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/410

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

flaenllaw gyda'r ysgol yn ei chychwyniad oeddynt William Rhisiart, Rees Jones (Rhys Sion), Robert Griffith, Evan Evans, John Evans, John Lewis (Tŷ Mawr), a Griffith Sion. Cynyddodd yr ysgol yn lled fuan i tuag 80 mewn nifer. Oherwydd fod yr ysgol yn cynyddu, a'r pregethu yn dyfod yn amlach, cytunwyd i anfon dau frawd at Mr. Poole, boneddwr oedd yn byw yn Cae Nest, palasdy gerllaw Llanbedr, a'r hwn ar y pryd a berchenogai y rhan fwyaf o'r gymydogaeth, i ofyn caniatad i adeiladu ysgoldy i gadw Ysgol Sul ynddo, er mwyn sicrhau addysg Feiblaidd i'r plant a'r bobl ieuainc. Atebodd Mrs. Poole yn benderfynol, "fod digon o le yn eglwys y plwyf, y dylent oll fyned yno; ac na roddid lle arall i neb i'r diben yma tra y byddai hi byw." Mae yn iawn i ni dybied fod boneddigion y wlad, yn yr amser gynt o leiaf, wrth wrthwynebu unrhyw symudiad o eiddo Ymneillduwyr, yn credu eu bod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw. Bu y foneddiges hon farw, modd bynag, y flwyddyn y gwnaed y cais hwn, a bu farw ei phriod hefyd yn fuan wedi hyny. Ymhen ychydig amser daeth Mr. Poole, hynaf, tad y rhag-ddywededig R. Poole, i drigianu i Gae Nest. Yr oedd ef yn adnabyddus i'r bobl fel gwr caredig a gwir foneddwr. Anfonwyd dau o frodyr ato yntau drachefn gyda'r un genadwri, sef i ofyn caniatad i adeiladu ysgoldy bychan. (Dywedir mai Rees Jones a Robert Griffith a anfonwyd dros y cyfeillion y ddau dro). Rhoddodd y boneddwr calon-agored eu dymuniad i'r cyfeillion ar ben gair. Caniataodd iddynt y lle mwyaf cyfleus, a dywedodd am iddynt beidio ei wneyd yn rhy fychan, ond yn gapel cysurus i bregethu ynddo, y byddai felly yn fwy cyfleus a manteisiol i gynal Ysgol Sul ynddo hefyd, ac ychwanegai, "y cymerai ef sët ynddo, os dewisent." Addawodd y tir ar brydles o 99 mlynedd, gyda'r hysbysiad, os na byddai yr ardal wedi ei henill iddo erbyn hyny, y byddai yn well i ryw bobl eraill geisio ei henill. Ac yn ychwanegol rhoddodd 5p. ei hun tuag