Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/409

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

symudiadau newyddion. Yr oedd yn un o wyr amlycaf Sir Feirionydd gyda Dirwest. Gwnaeth ei ran yn dda gyda llenyddiaeth ei oes. Ysgrifenodd amryw lyfrau, heblaw llawer i'r cylchgronau. Ac yr oedd ei arddull yn rhwydd, eglur, chwaethus, a phoblogaidd. Yr oedd ei ddawn i siarad yn gyhoeddus yn afrwydd a thrymaidd, ond enillodd ei weinidogaeth gymeradwyaeth graddol trwy ei oes, a chynyddai ei boblogrwydd a'i ddylanwad yn fwy tua'r diwedd. Wedi treulio ei oes yn wir ddefnyddiol, bu farw yn serch ei frodyr a'i wlad, Hydref 23, 1881, yn 57 mlwydd oed. Cyhoeddwyd Cofiant iddo yn 1886, yn Swyddfa Mri. Davies ac Evans, y Bala.

Yn 1883, rhoddodd eglwys Talsarnau alwad i'r Parch. Elias: Jones, cysylltiad sydd wedi para yn hapus hyd yn bresenol, pryd y mae ar symud i'r Drefnewydd, trwy alwad yr eglwys. yno.

Nifer y gwrandawyr, 464; cymunwyr, 176; Ysgol Sul, 248.

LLANBEDR.

Deunaw mlynedd ar hugain i'r flwyddyn hon (1890) y dechreuwyd yr achos yn Llanbedr, yn ei wedd gyntaf oll. Rhan o gynulleidfa y Gwynfryn ydoedd trigolion y pentref a'r gymydogaeth yn flaenorol. Ond fel yr oedd y plant tua Llanbedr yn lliosogi, aeth y brodyr oeddynt yn eiddigeddus dros addysg foesol y genhedlaeth ieuanc i deimlo yn bryderus rhag ofa yr esgeulusid anfon y plant yn gyson i'r Gwynfryn, a theimlent awydd cryf am gael Ysgol Sabbothol i Lanbedr. Cafwyd lle mewn tŷ, eiddo Mr. Riveley, Brynygwin, trwy fod y teulu a breswylient ynddo (Mr. John Evans, Gwyndy House), yn symud i dŷ newydd. Yn yr hen dŷ hwn y buwyd yn ei chynal am bedair blynedd. Pregethid hefyd ynddo yn achlysurol: y bregeth gyntaf a gafwyd yma oedd gan y Parch. Owen Roberts, Llanfachreth, ar nos Sadwrn. Y prif ddynion fu yn