Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/422

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

un ar ddeg yn y boreu ac am bedwar o'r gloch yn y prydnhawn. Ond nid oedd y drefn yma yn gyfleus i'r cyfeillion Cymreig nac i'r dieithriaid. Felly, yn y flwyddyn 1876, dechreuwyd cynal y moddion Saesneg yn yr ystafell gyhoeddus. Yn Mai, 1877, ceir fod cais wedi ei wneuthur trwy y Cyfarfod Misol at y Gymdeithasfa, am grant o 8p. 1s. 3c. at gynal pregethu yma. Yn Nghyfarfod Misol Hydref, yr un flwyddyn, y mae dau benderfyniad yn cael eu mabwysiadu,"(1). Ein bod yn llawenhau fod cyfeillion yr Abermaw wedi symud ymlaen i sicrhau lle i adeiladu capel Saesneg. (2). Ein bod yn rhoddi caniatad i'r cyfeillion sydd yn dal cysylltiad â'r achos Saesneg i ymffurfio yn eglwys, a phenodwyd y Parchn. D. Davies, a J. Davies, Bontddu, a Dr. Edward Jones, Dolgellau, i gynorthwyo yn ei sefydliad." Ymunodd amryw o'r cyfeillion Cymreig, ac yn eu plith Mr. John Evans, un o flaenoriaid y capel Cymraeg. Y mae ef wedi parhau yn ffyddlon a gweithgar gyda'r achos Saesneg o'r dechreu.

Y cam nesaf ydoedd adeiladu capel, ac ymgymerodd y cyfeillion â'r anturiaeth fawr hon yn ngwyneb llawer o anhawsderau Trwy offerynoliaeth Mr. R. Rowland, U.H., yn awr o Bwllheli, yr hwn ar y pryd oedd yn y Bank yn y dref hon, sicrhawyd tir mewn man canolog a chyfleus, heb fod ymhell o Orsaf y Rheilffordd. Ar y pedwerydd dydd o Fawrth, 1878, ar yr achlysur o ymweliad y Cyfarfod Misol a'r dref, gosodwyd i lawr gareg sylfaen y capel, gan John Roberts, Ysw., A.S., Bryngwenallt, Abergele, yr hwn a gyflwynodd 25p. tuag at yr adeilad. Llywyddwyd gan y Parch. D. Davies. Rhoddwyd penill allan i'w ganu gan y Parch. R. H. Morgan, M.A., a darllenwyd rhan o'r Ysgrythyr gan y Parch. T. J. Wheldon, B.A. Wedi hyny, ymneillduwyd i'r Assembly Room gerllaw, a chymerwyd rhan yn y cyfarfod yno gan y personau uchod, a chan Mri. R. Rowland, U.H., ac E. Griffith, U.H., a Dr. Edward Jones, U.H., Dolgellau, a'r Parch. Dr. Hughes, Liver-