pool. Pregethwyd yn gyntaf yn y capel newydd gan y diweddar Barch. Dr. Harries Jones, ar Sabbath yr 20fed o Hydref y flwyddyn uchod. Tachwedd 5ed a'r 6ed, cynhaliwyd y cyfarfod agoriadol, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. Dr. O. Thomas Liverpool; D. C. Davies, M.A., Llundain; a Joseph Jones, Menai Bridge. Dywedwyd ar ddydd gosodiad y sylfaen fod y capel i gynwys 250, ac y byddai y draul o 1100p. i 1200p. Ond ymddengys i'r capel a'r tir gostio dros 1850p. Cliriwyd dros 200p. y flwyddyn gyntaf. Yn 1886 gorfu i'r eglwys brynu y tir y tu ol i'r capel, yr hwn a gostiodd 300p. yn ychwanegol. Ond gyda rhodd o 100p. gan y Cyfarfod Misol, a chymorth y cyfeillion Cymreig, talwyd yr oll am y tir yn ystod y flwyddyn hono. Gwasanaethodd y Parch. R. H. Morgan, M.A., yr eglwys yn ffyddlon o'i sefydliad hyd ei ymadawiad o'r dref i Dowyn yn nechreu 1887. Yn Medi 1887, rhoddwyd galwad i'r Parch. O. Parry-Owen, yr hwn oedd yn enedigol o'r lle, a bu yn gweithio yn ffyddlon ac egniol hyd ei ymadawiad i Sir Drefaldwyn yn Ionawr 1889. Yn Mehefin 1888, daeth y Parch. D. Evans, M.A., a'r teulu, o Gelligaer, i fyw i'r gymydogaeth, y rhai a ymunasant â'r eglwys, a'r hyn a fu yn gaffaeliad mawr iddi. Cymer Mr. Evans ran flaenllaw yn y cyfarfodydd ganol yr wythnos.
Yn mis Mawrth 1879, galwyd Mri. G. O. Jones a G. Griffiths, Chemist, yn flaenoriaid i gynorthwyo Mr. Evans. Derbyniwyd hwy yn aelodau o'r Cyfarfod Misol yn y Dyffryn yr un flwyddyn. Yn y flwyddyn ganlynol, neillduwyd Mr. Jos. Thomas, Ysgol y Bwrdd, yr hwn a dderbyniwyd yn Nghyfarfod Misol Abermaw. Y tri diweddaf ydyw blaenoriaid yr eglwys yn awr; ac y mae y tri wedi gweithio yn rhagorol, gan mai i fyny y rhiw y bu yr achos yn cerdded hyd yma. Mae y ddyled eto yn drom ag ystyried mai bechan ydyw yr eglwys. Er's blwyddyn neu ddwy, pa fodd bynag, mae y