felly ond ychydig wedi ei wneuthur yn yr ardaloedd hyn gyda'r gangen hon o deyrnas yr Arglwydd Iesu cyn dechreu y ganrif bresenol, a thra thebyg ydyw y dosbarth hwn i'r dosbarthiadau eraill gyda golwg ar yr amser y rhoddwyd y cychwyniad cyntaf i'r ysgolion. Ac o amser cychwyniad cyntaf y sefydliad trwy offerynoliaeth Mr. Charles yn 1785, araf a graddol fu y cynydd am ysbaid o oddeutu ugain mlynedd.
Ychydig yw y ffeithiau hanesyddol sydd i'w hadrodd am ddosbarth y Dyffryn mewn cysylltiad â'r Ysgol Sul, o leiaf, hyd amser sefydliad y Cyfarfodydd Ysgolion. Nid oes yma yr un Lewis William i groniclo ei hanes, fel yn nosbarth Dolgellau; na'r un John Jones, Penyparc, fel yn nosbarth y Ddwy Afon; na'r un Morris Llwyd, fel yn nosbarth Ffestiniog. Mae yr ychydig grybwyllion sydd yn wybyddus am yr ysgolion, bob yn un ac un, yn ystod y deng mlynedd ar hugain cyntaf, wedi eu rhoddi eisoes yn y benod ar hanes Eglwysi y Dosbarth.
Y mae enw Thomas Bywater wedi ei grybwyll genym rai gweithiau. Bu ef yn cadw ysgol ddyddiol am hir amser yn Abermaw a'r Dyffryn. Yr oedd yn ŵr medrus a gweithgar, ac iddo ef, fel yr hysbysir, y priodolir dygiad yr Ysgolion Sabbothol yn nosbarth y Dyffryn i drefn gyntaf, ar ddechreuad y ganrif bresenol. Oddeutu y flwyddyn 1818 yr ydym yn cael y cofnodion ysgrifenedig cyntaf am yr ysgolion. Yn ddamweiniol, fe gafwyd ychydig o hen lyfrau yn llawysgrifen Hugh Evan, Hendre-eirian, heb fyned ar ddifancoll. A'r hen lyfrau hyn ydynt y tystion hynaf a chywiraf am weithrediadau yr Ysgol Sul yn y dosbarth. Dechreuwyd ysgol yn ei dŷ ef ei hun Mehefin 28ain, 1818, a chadwodd yntau gyfrif manwl am yr ysgol yn y cyfnod hwn, sef enwau y rhai fyddent yn dechreu a diweddu yr ysgol, ei rhif, ei hagwedd o ran cynydd neu leihad, ynghyd a manylion eraill, megis y pethau