Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/427

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

canlynol, "Yr ysgol erbyn hyn yn ddeg o glasses; rhanwyd y drydedd benod o Lyfr Egwyddorion i'w dysgu allan." "Cawsom y fraint o gael Daniel Evans yn bresenol yn yr ysgol; pob peth yn bur gysurus; fe roes Daniel olwg yn fyr ar bob dosbarth."—"Heb yr un ysgol, oblegid bod John Elias yn y Bermo yn cadw odfa."-"Richard Humphreys yn dechreu yr ysgol; yn myned ymlaen yn bur siriol; ymwelodd Richard Humphreys â phob class yn fyr, a da oedd gan bawb ei weled." "Dim ysgol; Dafydd Rolant yn y Dyffryn yn cadw odfa." Amrywiai rhif yr ysgol hon yr adeg yma, sef yn 1818 a'r pedair neu bum mlynedd dilynol, o 60 i 76.

Y cyfarfod ysgolion cyntaf a gynhaliwyd, yn ol ysgrifau Hugh Evan, Hendre-eirian, ydoedd yn y Dyffryn, Chwefror 28ain, 1819. Y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, oedd yn ei gadw. Mae hyn yn cyfateb yn lled agos i'r amser y dechreuwyd y cyfarfodydd ysgolion mewn rhanau eraill o'r wlad. Mewn llythyr a anfonodd Lewis William, Llanfachreth, at frodyr Penllyn, dyddiedig, Dolgellau, Mai 12fed, 1818, dywed mai yn Llanfachreth, ar y 25ain o Fai, 1817, y cynhaliwyd cyfarfod ysgolion cyntaf dosbarth Dolgellau. Dywed, hefyd, yn yr un llythyr, "Fe ganiatawyd, os byddai y Bermo, Dyffryn, a'r Gwynfryn yn dewis, y caent ddod o fewn i'r cylch, ond gwrthod y maent hyd yn hyn, oherwydd eu bod yn cadw cyfarfodydd mewn modd arall." Wrth gadw cyfarfodydd mewn modd arall, y meddylid, yn ddiameu, eu bod bwriadu ymffurfio yn ddosbarth ysgolion arnynt eu hunain. Am ychydig yn y dechreu, Cyfarfod Chwech wythnosol' ydyw yr enw sydd ar y cyfarfodydd; ond cyn diwedd 1820, gelwir hwy yn Gyfarfod Daufisol.' Ffurfid rheolau manwl gan arweinwyr yr Ysgol Sabbothol y pryd hyn, a dangosid ffyddlondeb tra mawr gan yr athrawon a'r deiliaid. Un o'u rheolau ydoedd, fod yr athrawon i gyfarfod ynghyd nos Sadwrn cyntaf o bob mis, i ymgynghori gyda golwg ar gario gwaith yr ysgol