Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/429

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ef fel math o athrofa deuluaidd; llawer a gawsant eu meithrin a'u haddysgu ynddi. Gŵr rhadlawn, tirion, awyddus i wneuthur daioni i bawb oedd Hugh Evan. Yr oedd yn dad i'r diweddar Evan Williams, o Hendre-eirian, ac yn daid i Mri. Hugh Williams, Liverpool House, a R. J. Williams, y Llythyrdy. Yr ysgrifenydd nesaf ar ei ol ef ydoedd John Jones, Plas Uchaf, wedi hyny o Ynysgain, yr hwn a fu yn y swydd am y blynyddau 1832-1840. Cedwid ganddo ef gofnodion manwl o'r materion y traethid arnynt yn yr holl gyfarfodydd. Yn yr ystyr hwn mae ei gofnodion yn hynod o werthfawr. Gwelir oddiwrthynt y byddai dan bregethwr yn bresenol ymhob cyfarfod ysgol; a'r ddau sydd a'u henwan i lawr yn llyfr y cofnodion amlaf ydynt, Daniel Evans a Richard Humphreys, ond byddai pregethwr arall o'r sir, neu y tuallan i'r sir, ymhob cyfarfod gydag un o'r ddau hyn. Traethid gan y gwyr parchedig bethau newydd a hen, ar faterion yn dwyn cysylltiad uniongyrchol âg addysg a chrefydd y wlad. Ac y mae yn syndod gymaint a draethwyd, a chymaint o ymdrechion a wnaethpwyd gan arweinwyr yr Ysgol Sabbothol y dyddiau gynt, er planu egwyddorion crefydd a moesoldeb yn meddyliau yr ieuenctyd, ac er dadwreiddio drwg arferion allan o'r tir. Yr un cwynion yn union a glywid y pryd hwnw am y rhwystrau ar ffordd cynydd crefydd ag a glywir y dyddiau hyn,-diffyg gofal priodol o du y rhieni i addysgu y plant yn eu cartrefi, diffyg ymroad yn yr athrawon i lafurio ar gyfer eu gwaith, a diffyg ystyriaeth ddyladwy o'r rhwymedigaeth sydd yn orphwysedig ar broffeswyr crefydd i fyw yn dduwiol eu hunain, ac i rybuddio a chynghori pawb ei gymydog, bob dydd tra y gelwir hi heddyw. Ceir lliaws mawr yn y llyfr cofnodion hwn o eiddo yr uchelwr o'r Plas Uchaf, o sylwadan treiddgar a miniog, wedi en hysgrifenu yn gyflawn ar y materion crybwylledig. Yn niwedd 1840, rhoddodd ef ei swydd i fyny, oherwydd ei fod