yn ymadael o'r sir. Wedi hyny y mae bwlch o ddeng mlynedd ar hugain heb ddim cofnodion yn ganfyddadwy, er gwneuthur pob ymchwiliad am danynt. Yn nechreu y cyfnod hwn, fel yr hysbysir, bu David Pugh, Morfa, Harlech, a John Llwyd, Erw-wen, yn flaenllaw gyda gwaith yr ysgol. Gwasanaethodd Evan Williams, Hendre-eirian, yn y swydd o ysgrifenydd am dymor hir. Yn ddiweddarach yn y cyfnod, bu Lewis Jones, ysgolfeistr y Dyffryn, gŵr crefyddol ac ymroddgar, yn ysgrifenydd y cyfarfod ysgolion am flynyddoedd; ac ar ei ol yntau Mr. R. Rowlands, ysgolfeistr, Talsarnau, yn awr o Benrhyndeudraeth. O ddechreu y flwyddyn 1871 hyd yn awr y mae cofnodion rheolaidd wedi eu cadw. Ac yn ystod y blynyddoedd diweddaf, bu Mr. R. J. Williams, Llythyrdy, y Dyffryn, yn ysgrifenydd. Ar ei ol ef gwasanaethodd Mr. Robert Williams, Ysgol y Bwrdd, y swydd yn ffyddlawn am ddeuddeng mlynedd, hyd ei symudiad i fod yn ysgolfeistr yn Nhanygrisiau yn nechreu y flwyddyn 1887. Ac ar nos Wener, y 15fed o Fai y flwyddyn hono, cyflwynwyd iddo "anerchiad addurniadol" gan eglwys a chynulleidfa y Dyffryn, ac "oriawr aur, ar ran cyfarfod ysgolion y dosbarth, yn gydnabyddiaeth o'i lafur diflino fel ysgrifenydd am oddeutu deuddeng mlynedd." Mae yr ysgrifenydd presenol, Mr. Rees Evans, Gwyndy House, Llanbedr, yn y swydd er 1887.
Yn Nghymdeithasfa Flynyddol Sir Feirionydd yn Nolgellau, Medi, 1820, y Parch. Richard Humphreys a osodwyd yn ofalwr am gyfarfod ysgolion dosbarth y Dyffryn. Yr ydoedd hyn ymhen oddeutu dwy flynedd ar ol sefydlu cyfarfod ysgolion y cylch. Ond y mae digon o sicrwydd mai y Parch. Daniel Evans oedd y gofalwr cyntaf, a'r prif ofalwr, am ysgolion y dosbarth hwn dros yn agos i haner canrif. Ei enw ef a'r Parch. R. Humphreys sydd i'w gweled amlaf yn llyfr y cofnodion y cyfnod sydd yn blaenori 1840. Yn y Drysorfa am fis Hydref, 1855, ceir yr hanes canlynol am Anrhegiad Gwein-