idog,—"Mewn cyfarfod daufisol Ysgolion Sabbothol dosbarth Abermaw, Dyffryn, Gwynfryn, Harlech, a Thalsarnau, a gynhaliwyd yn y Gwynfryn, Medi 2il y flwyddyn hon, cyflwynwyd i'r Parch. Daniel Evans, Penrhyn, gan Mr. E. Richards, Abermaw, a Mr. E. Pugh, Argoed, holl waith y Parch. John Howe, ac Esboniad y Parch. Matthew Henry ar y Beibl, ynghyd a 5p. 6s. o arian, fel arwydd o gydnabyddiaeth ddiolchgar y gwahanol ysgolion i Mr. Evans am ei lafur a'i ffyddlondeb yn y dosbarth uchod gydag achos yr Ysgol Sabbothol. Derbyniwyd yr anrheg gan ein hen gyfaill parchedig gyda theimladau diolchgar; a chymerodd fantais ar y pryd i adrodd ychydig o hanes llwyddiant yr Ysgolion Sabbothol yn y dosbarth hwn o'r wlad, am fwy na deugain mlynedd, yn y rhai y bu efe, i fesur mwy neu lai, mewn cysylltiad â hwy." Yr oedd ef wedi dechreu pregethu cyn ffurfiad ysgolion y cylch yn ddosbarth, ac yr oedd wedi bod yn wasanaethgar yn y rhan yma o'r wlad yn flaenorol i hyny, pan oedd yn cadw yr Ysgol Ddyddiol Râd o dan arolygiaeth Mr. Charles. Parhaodd hefyd i fod yn ofalwr am ysgolion y dosbarth am rai blynyddau ar ol symud i fyw o Harlech i'r Penrhyn. Dywed yr adroddiad am y cyfarfod crybwylledig yn mhellach, "Gallwn dystio fod y gydnabyddiaeth uchod o lafur a ffyddlondeb ein hybarch frawd a thad, wedi bod yn foddion i ail enyn y teimlad cysurus ag ydoedd bob amser yn aros rhwng swyddogion ac aelodau yr ysgolion ag ef, a bod, trwy hyny, y naill yn ddiarwybod yn cael eu dwyn i ymgysuro yn y llall; fel y sylwai ef ei hun, nad ydoedd erioed wedi dychmygu gweled y fath beth, eto yr oedd yn canfod ffrwyth addfed yn dyfod oddiar y pren y bu efe—os nad yn ei blanu-yn ei ddyfrhau pan yn impyn tyner, yn ffrwyth hyfryd mewn gwirionedd iddo."
Un arall a fu yn dra gwasanaethgar fel holwyddorwr a gofalwr am ysgolion y cylch ydoedd y Parch. Thomas Williams, Dyffryn. Bu ef yn cadw ysgol ddyddiol, ac yr oedd ynddo