Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/437

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAN III.

Y CYFARFOD MISOL. PENOD I.

BYR HANES AM Y CYFARFOD MISOL O YMUNIAD MR. CHARLES A'R CYFUNDEB YN Y FLWYDDYN 1785, HYD RANIAD Y SIR YN 1840.

CYNWYSIAD.—Amser ei ddechreuad—Hanes Lewis Morris yn dechreu pregethu—Sul y Cymundeb yn v Bala yn gwneyd y tro yn lle Cyfarfod Misol—Gosod blaenoriaid ar yr eglwysi—Mr. Charles a John Evans, y Bala, y ddau arweinydd cyntaf—John Roberts, Llangwm—Richard Jones, y Wern—John Peters, Trawsfynydd—Richard Jones, y Bala—Y dull o deithio i'r Cyfarfodydd Misol—Y gwaith a wnelid—Trefnlen y Cyfarfodydd Misol—Rhaniad y Sir.

 YMUNOL fuasai cael hanes Cyfarfod Misol Sir Feirionydd, ynghyd â'r gwyr enwog, yn bregethwyr a blaenoriaid, fu yn cymeryd rhan yn ei weithrediadau o'r dechreuad; ond a chaniatau fod y defnyddiau i'w cael, nis gellir o fewn terfynau y benod hon roddi ond ychydig o le i'r cyfryw hanes. Rhaid boddloni ar grybwyllion byr yn unig, o leiaf, hyd nes y deuwn at weithrediadau y Rhan Orllewinol. Nid mor hawdd ydyw nodi yr amser y dechreuwyd cynal Cyfarfodydd Misol y sir. Gellir bod yn lled sicr o hyn, modd bynag, nad oeddynt ond cynulliadau bychain iawn yma, fel yn siroedd eraill y Gogledd, hyd nes yr oedd wedi rhedeg yn agos i ddiwedd y ganrif ddiweddaf. Pa bryd bynag y cawsant eu sefydlu yn Meirionydd, yr adeg y dygwyd hwy i drefn ydoedd oddeutu yr amser yr ymunodd Mr. Charles A'r Methodistiaid, ac yr ymsefydlodd yn y Bala, sef yn y flwyddyn 1785.