Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/438

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

John Evans, y Bala, oedd y mwyaf deallus a synhwyrol, a'r mwyaf ei ddylanwad hefyd o'r tô cyntaf o bregethwyr y sir. Ond ni ystyrid mohono yn bregethwr poblogaidd; ni feddai ddawn gynhyrfus, na llais melodaidd i effeithio ar y tymherau, fel llawer o bregethwyr ei oes ef. Oblegid hyny, tybiai rhai o'i gymydogion unplyg a difeddwl-ddrwg, nad oedd wedi ei alw gan yr Arglwydd i'r gwaith, ac anfonasant genadwri ato i'w hysbysu mai doeth fyddai iddo roddi heibio bregethu. I hyn atebodd yntau, yn ei ddull ei hun, "Ho! mi glywaf; hwn a hwn," ebai, gan gyfarch y genad, "ewch chwithau yn ol atynt hwythau, a dywedwch wrthynt y pregethaf fi nes y gwelaf yma ryw un a fedro bregethu yn well na fi yn dechreu." "Yr oedd byn, debygid," ebai Methodistiaeth Cymru, "cyn bod Cyfarfod Misol yn y sir, a chyn dyfodiad Mr. Charles i fyw i'r Bala." Awgrymir yn y dyfyniad hwn fod dyfodiad Mr. Charles i'r Bala a sefydliad Cyfarfodydd Misol yn y Sir bron yn gyfamserol a'u gilydd. Nid oedd ond ychydig o angen am danynt yn flaenorol i'r adeg yma. Rhyw chwech neu saith oedd nifer yr eglwysi yn y rhan Orllewinol y flwyddyn yr ymunodd Mr. Charles â'r Methodistiaid; ac nid oedd o fewn yr un cylch ond un pregethwr, neu gynghorwr, sef Edward Roberts, Trawsfynydd. Ar ol hyn hefyd y dechreuwyd gosod blaenoriaid yn rheolaidd ar yr eglwysi. Felly, nid oedd ond ychydig o waith i'w wneuthur yn y Cyfarfodydd Misol. Ar yr un pryd, mae yn bosibl y cynhelid hwy ar raddfa fechan rai blynyddau yn flaenorol i'r adeg y cyfeirir ati.

Yn y flwyddyn 1791 y dechreuodd Lewis Morris bregethu. Cyfarfyddwn yn ei hanes ef â chyfeiriadau at y Cyfarfod Misol fel sefydliad oedd yn meddu tipyn o awdurdod cyn y flwyddyn hon. "Yr oeddwn," meddai, gan gyfeirio at y flwyddyn cyn iddo ddechreu pregethu, "er's peth amser wedi cael caniatad i fyned i'r Cyfarfod Misol, fel un oedd yn