Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/439

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gofalu am achos yr Arglwydd yn fy ardal; ac yn lled fuan wedi i mi ddechreu cynghori, dywedodd un brawd yn y Cyfarfod Misol fy mod yn myned at y gwaith o bregethu. 'Na,' meddwn inau, 'nid pregethu y byddaf, ac nid wyf yn meddwl am fyned yn bregethwr; ac ni byddaf byth yn darllen testyn o'r Beibl yn flaenorol i'm cynghorion.' Gofynwyd i mi pa fodd y byddwn yn arfer gwneyd; ac atebais, y byddwn yn dweyd wrth y bobl eu bod wrth naturiaeth yn blant digofaint, ac nad oedd un llwybr i'w cadw ond trwy gredu yn y Crist a groeshoeliwyd ar Galfaria, a bod iawn gredu yn Nghrist yn dyfod â dynion i adael eu pechodau, ac i fyw yn dduwiol. 'Wel,' meddai y brodyr, 'pregethu yw hyna.' Am fy mod yn ieuanc mewn crefydd, ac wedi bod mor anwar a chyhoeddus yn myddin y diafol, yr oedd arnynt lawer o ofn rhoddi caniatad i mi i bregethu." Dechreuodd bregethu pan yn 31 oed, ymhen dwy flynedd wedi iddo ymuno â chrefydd. Ymddengys iddo gyfarfod â rhwystrau i ddechreu ar y gwaith oddiwrth y brodyr crefyddol, am y rheswm a nodir ganddo yn y dyfyniad uchod. Aeth i Ddolgellau i bregethu ar ryw nos Sabbath, ar gais hen frawd oedd yn blaenori yno, a chymerodd destyn y tro hwn, sef Act. ii 47. "Bu brodyr Dolgellau," ebai, "yn gefnogaethol i mi yn y Cyfarfod Misol ar ol yr odfa hon. Yr hynafgwr parchus, John Evans, o'r Bala, hefyd, a ddywedodd mewn Cyfarfod Misol, Y mae genyf fi fansi yn y dyn ieuanc [sef Lewis Morris], yr wyf yn meddwl fod yn ei galon wneyd drwg i deyrnas y tywyllwch; ac yr wyf yn credu y gwna efe hyny hefyd.' Cefais lawer o diriondeb a meithriniad hefyd gan yr enwog Mr. Charles, o'r un lle, a'i gyfeillach ostyngedig a sanctaidd a fu yn llawer o les i mi." Oddiwrth y cyfeiriadau uchod, yr ydym yn gweled fod y Cyfarfod Misol yn bod, ac yr ydym hefyd yn cael rhyw gip-olwg ar ei weithrediadau yn y flwyddyn 1790.

Y Bala oedd cartrefle Methodistiaid Sir Feirionydd dros