ar derfyn Diwygiad Beddgelert, ac ymhen rhyw bedair blynedd ar ddeg, sef yn mis Chwefror, 1833, cymerwyd ef oddiwrth ei waith at ei wobr. Yn ystod y tymor yna, efe oedd arweinydd ei frodyr, a'r trymaf o honynt ar bob pwnc o ddadl, ac mewn amgylchiadau o ddyryswch. Yr oedd yn alluog iawn fel ysgrifenwr a dadleuwr; cymerai yr ochr oleu ar bobpeth tra y byddai eraill yn ofnus a chwynfanus; safai yn gryf dros ddisgyblaeth eglwysig; cariai y cwbl o'i flaen pan fyddai wedi ei gynhyrfu a'i wresogi. Cymharai Mr. Charles ef i wagen fawr yn dyfod i mewn i'r dref yn llwythog o nwyddau i'r preswylwyr. Am dano fel pregethwr, dywed y Parch. Dr. O. Thomas: "Er holl afrwyddineb a hwyrdrymedd ei ddawn, tynai ddesgrifiadau mor fywiog a naturiol o'r amgylchiadau neu y digwyddiadau Ysgrythyrol a fyddent ganddo o dan sylw, nes eu gwneuthur yn hollol bresenol gerbron ei wrandawyr, a gwefreiddio eu meddyliau yn gwbl ganddynt; fel y gwelsom ef laweroedd o weithiau, yn cael buddugoliaeth mor deg, mor lwyr, ac mor gyffredinol, ar deimladau ei gynulleidfa ag un pregethwr a glywsom erioed."
Un o'r pregethwyr mwyaf cymeradwy yn yr un cyfnod ydoedd y Parch. John Peters, Trawsfynydd. Daeth ef i breswylio i'r rhan Orllewinol o'r sir, fel y ceir ei hanes ynglŷn âg eglwys Trawsfynydd, oddeutu deuddeng mlynedd cyn diwedd ei oes, a bu farw Ebrill 26, 1835. Yr oedd yn gymeradwy iawn ymysg lliaws ei frodyr, a'i weinidogaeth bob amser mor felus a diddanus, nes peri galar a cholled cyffredinol ar ei ol. Prawf o hyn oedd y sylw a wnaeth y Parch. Ebenezer Richards ar Green y Bala, ymhen ychydig ar ol ei farwolaeth. Yn ei bregeth coffai Mr. Richards am amryw bregethwyr oeddynt yn ddiweddar wedi eu cymeryd i'r orphwysfa o Sir Feirionydd, ac yn eu mysg dywedai ar dop ei lais, "a John Peters anwyl o Drawsfynydd."
Y Parch. Richard Jones, y Bala, oedd weinidog o gyraedd-