Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/445

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iadau amlwg a defnyddioldeb mawr yn ei ddydd. Yr oedd ef ar y cyntaf yn un o'r ysgolfeistriaid blaenaf a gyflogid gan Mr. Charles. Bu yn cadw ysgol yn Nhrawsfynydd, ac yn preswylio yno am bymtheng mlynedd. Yn 1829, symudodd ar gais y brcdyr, i fyw i'r Bala, ac yn y flwyddyn 1840 bu farw, pan nad oedd yn llawn 56 mlwydd oed. Cyfrifid ef yn un o'r colofnau gyda holl symudiadau yr achos yn y sir. "Nid yn fynych y gwelwyd neb llai ei frychau, ac amlach ei rinweddau." Meddai farn glir a doethineb y doeth; ceid ef hefyd yn ŵr o ymddiried ac o ymroddiad mwy na'r cyffredin. Cyn belled ag y gellir casglu oddiwrth amgylchiadau cydgyfarfyddol, efe a ddaeth yn ysgrifenydd y Cyfarfod Misol am y chwe' blynedd dilynol i farwolaeth John Roberts, Llangwm. Nid oes dim cofnodion i'w cael i brofi y ffaith, a methasom a chael tystiolaeth ar air i'w sicrhau, ond mae ei enw i'w weled yn fynych, lle y disgwylid cael enw ysgrifenydd y Cyfarfod Misol.

Y gwyr a nodwyd oeddynt brif arweinwyr y Cyfarfod Misol tra yr oedd yr holl sir yn un. Bu amryw bregethwyr heblaw hwy yn dra gwasanaethgar gyda gwaith yr Arglwydd yn ei holl ranau; rhai yn llai amlwg ac adnabyddus, eraill yn amlwg iawn yn y pulpud, ond heb fod mor flaenllaw gyda'r gwaith yn allanol. Yr oedd nifer o bregethwyr hefyd a breswylient yn y rhan Orllewinol, ac a fuont byw yn hir ar ol rhaniad y Cyfarfod Misol, wedi bod yn flaenllaw gyda'r gwaith cyn y rhaniad, am y rhai y gwneir coffhad yn mhellach ymlaen. Mae yr amgylchiadau dan ba rai y cynhelir y Cyfarfodydd Misol yn awr yn dra gwahanol i'r peth oeddynt driugain mlynedd yn ol. Pan oedd y ddau ben i'r sir yn un, cyrhaeddai y cylch o Aberdyfi i Gapel Curig ar y naill law, ac o Benrhyndeudraeth i Lanarmon Dyffryn Ceiriog ar y llaw arall. Clywsom yr hy barch flaenor, Mr. Owen Williams, Aberdyfi, yn dweyd iddo ef fyned yr holl ffordd oddicartref i Gyfarfod